YSBRYDOLI, CEFNOGI, RHOI RHYWBETH YN ÔL

Fel Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, mae gwirfoddoli eich amser, eich arbenigedd a'ch cyngor yn hynod werthfawr i fyfyrwyr presennol.

Hefyd, mae'n brofiad gwerthfawr dros ben i chi, ac yn ffordd wych o aros mewn cysylltiad â'r Brifysgol, cwrdd â phobl newydd a hybu'r gwaith rydych chi'n ei wneud.

Ble bynnag rydych chi neu faint bynnag amser sydd gennych i'w roi, mae llawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan ac ysgogi ein myfyrwyr:

Alex Evans, Swansea university headshot

“Mae'r cynllun mentora wedi fy synnu drwy fy helpu ar lefel bersonol yn bennaf. Er y bydd fy mentor yn cynnig cyngor gwerthfawr ar yrfaoedd ac yn aml yn rhoi o'i hamser i anfon dolenni neu gyrsiau ataf a fyddai’n fuddiol i mi yn ei barn hi, mae'r hyder a'r cyffro am fy nyfodol rwyf wedi'u datblygu o'r profiad hwn wedi bod yn hynod werthfawr." 

Alex Evans BSc Marchnata 2il Flwyddyn

Rumi Bosky, Swansea University Student

“Penderfynais i gymryd rhan yn y cynllun mentora ar-lein oherwydd fy mod i am ddysgu rhagor am y diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus, a'r hyn y gallwn i ei wneud i lwyddo fel ymarferwr Cysylltiadau Cyhoeddus. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n chwilio am arweiniad yn eu maes i ymuno â'r rhaglen, oherwydd ei bod yn ffordd o ddysgu sgiliau pwysig ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol ac mae'n eich galluogi chi i ddechrau meithrin rhwydweithiau â phobl yn y diwydiant sydd o ddiddordeb i chi." 

Rumi Bosky BA yn y Cyfryngau gyda Sbaeneg 2il flwyddyn