Llaw yn dal potel o laeth fformiwla.

Yn ôl astudiaeth gan academyddion Prifysgol Abertawe i ddiogelwch paratoi llaeth fformiwla i fabanod, roedd yn ymddangos nad oedd 85% o'r 74 peiriant paratoi fformiwla i fabanod a brofwyd gan rieni yng nghartrefi'r DU yn cynhesu dŵr a fyddai'n ddigon poeth i ladd pob bacteria niweidiol mewn fformiwla i fabanod, a gallai hyn beri risg ddifrifol i iechyd babanod.

Roedd hyn mewn cymhariaeth â 69 o rieni yn yr astudiaeth a ddefnyddiodd tegell i gynhesu'r dŵr a ddefnyddiwyd i baratoi fformiwla i fabanod, lle nododd 22% ohonynt dymheredd dŵr nad oedd yn ddigon poeth i ladd pob bacteria niweidiol.

Mae bron tri chwarter y babanod yn y DU yn cael fformiwla i fabanod yn ystod chwe wythnos gyntaf eu bywyd ac mae hyn yn codi i 88% erbyn chwe mis oed. 

Mae gan fabanod sy'n cael llaeth fformiwla risg uwch o heintiau gastroberfeddol o'u cymharu â babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron. Gellir priodoli hynny, yn rhannol, i halogi bacteriol o’r canlynol: y llaeth fformiwla i fabanod ei hun (na ellir ei wneud yn ddi-haint), yr offer a ddefnyddir ar gyfer bwydo, a hefyd baratoi fformiwla i fabanod â dwylo aflan. Er mwyn helpu i leihau'r risg o heintiau o'r fath, mae'r GIG wedi mabwysiadu argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y dylid berwi ac oeri dŵr a ddefnyddir wrth wneud fformiwla babanod, fel ei fod yn cyrraedd tymheredd o o leiaf 70°C er mwyn lladd bacteria.

Roedd yr astudiaeth, a oedd yn archwilio diogelwch arferion paratoi fformiwla i fabanod o'i gymharu â chanllawiau'r GIG, yn defnyddio dulliau gwyddoniaeth gymunedol ac yn cynnwys rhieni babanod 12 mis oed neu iau. Roedd tua hanner y 143 o rieni (74 o bobl) yn defnyddio peiriannau paratoi fformiwla i fabanod tra bod y 69 rhiant arall yn defnyddio tegelli i ferwi'r dŵr ar gyfer paratoi fformiwla i fabanod.

Dywedodd Dr Aimee Grant, Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd y Cyhoedd, a arweiniodd yr astudiaeth:

"Roeddwn i'n pryderu ei bod hi'n ymddangos bod 85% o'r peiriannau paratoi fformiwla i fabanod a brofwyd gan rieni yn methu cyrraedd tymheredd o o leiaf 70°C y mae'r GIG yn dweud bod ei angen i ladd pob bacteria a all fyw mewn llaeth fformiwla i fabanod.  Os oes rhieni sy'n poeni, byddwn i'n eu cynghori i brynu thermomedr bwyd a phrofi tymheredd y dŵr poeth sy'n dod allan o'u peiriant (ond i beidio â defnyddio'r dŵr hwn mewn llaeth i'r babi oherwydd halogiad posibl); os bydd yn is na 70 gradd, peidiwch â defnyddio'r peiriant i baratoi llaeth fformiwla i fabanod a chysylltwch â gwneuthurwr y peiriant.

Dywedodd Jonie Cooper, rhiant a gymerodd ran yn yr astudiaeth: "Pan brofais fy mheiriant paratoi fformiwla gyntaf, gan ddefnyddio'r gosodiad ar gyfer potel 4 owns o fformiwla, 52°C oedd y tymheredd. Pan welais i hyn, ces i sioc oherwydd roeddwn i'n ymddiried y byddai'r peiriant yn dilyn canllawiau'r GIG o ran tymheredd y dŵr, oherwydd ei fod wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer babanod. Rwy'n cynghori rhieni sy'n defnyddio peiriant paratoi i wirio tymheredd y dŵr."

Mae'r astudiaeth yn argymell amddiffyniadau cryfach i ddefnyddwyr ar farchnata dyfeisiau paratoi fformiwla babanod i helpu i amddiffyn babanod rhag halogiad bacteriol sy'n gysylltiedig â fformiwla babanod. Mae'n bwysig bod llaeth fformiwla'n cael ei baratoi yn unol â "chanllawiau'r GIG er mwyn osgoi risgiau o halogi a all arwain at salwch difrifol a hyd yn oed marwolaeth.

Mae ymchwilwyr yn galw am ddiweddaru gofynion labelu fformiwla i fabanod i gyd-fynd â chanllawiau'r GIG a Sefydliad Iechyd y Byd drwy ddangos gwybodaeth nad yw llaeth fformiwla i fabanod yn ddi-haint, y tymheredd dŵr gorau posibl a'r risgiau o beidio â defnyddio dŵr sy’n ddigon poeth wrth nodi hefyd bwysigrwydd golchi dwylo a di-heintio'r holl offer bwydo fel mater o drefn.

Mae'r astudiaeth hefyd yn argymell y dylid rhannu'r negeseuon iechyd cyhoeddus hyn yn ystod cymorth bwydo babanod cynenedigol ac ôl-enedigol, yn dilyn arweiniad Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF. Yn olaf, mae'r tîm ymchwil yn cynghori y dylid mapio heintiau gastroberfeddol bacteriol mewn babanod, yn enwedig y rhai sy'n arwain at fynd i'r ysbyty, i sypiau o fformiwla i fabanod ac offer paratoi cysylltiedig er mwyn darparu gwybodaeth a allai lywio mesurau i wella diogelwch arferion bwydo fformiwla ar gyfer babanod yn y DU.

Meddai'r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (yr FSA): "Mae'r astudiaeth wedi'i hariannu gan UKRI a'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'i chyflawni mewn cydweithrediad â'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (y BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC).

"Mae rhaglen gwyddoniaeth dinasyddion yr FSA yn adeiladu ar y cydweithio rhwng UKRI (gan weithio drwy ddau o'i gynghorau, sef y BBSRC a'r ESRC), yr FSA a Food Standards Scotland, er mwyn datblygu dull cydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r heriau wrth ddiogelu bwyd yn y Deyrnas Unedig.

"Mae canfyddiadau'r prosiect hwn yn pwysleisio pwysigrwydd gwirio bod dŵr sy'n cael ei ddefnyddio wrth baratoi llaeth fformiwla i fabanod yn cyrraedd tymheredd o o leiaf 70C, ni waeth pa ddull sy'n cael ei ddefnyddio. Yn sgîl y canfyddiadau hyn, rydyn ni'n argymell y dylai defnyddwyr wirio bod y dŵr sy'n cael ei gynhesu mewn peiriannau paratoi llaeth fformiwla i fabanod yn cyrraedd tymheredd o o leiaf 70C, ac os nad yw'n gwneud hynny, dylen nhw gysylltu â'r gweithgynhyrchwr, eu hadran Safonau Masnach leol neu swyddfa Cyngor ar Bopeth.

Mae'r FSA yn gweithio'n agos gyda phartneriaid eraill gan gynnwys y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch er mwyn penderfynu a oes angen cymryd camau gweithredu pellach."

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn Maternal & Child Nutrition.

Rhannu'r stori