Dŵr: mae dull newydd o droi dŵr y môr yn ddŵr yfed, a allai fod yn ddefnyddiol mewn ardaloedd trychineb lle mae pŵer trydanol cyfyngedig, wedi'i ddatblygu gan dîm o wyddonwyr, gan gynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe.

Mae dull newydd o droi dŵr y môr yn ddŵr yfed, a allai fod yn ddefnyddiol mewn ardaloedd trychineb lle mae pŵer trydanol cyfyngedig, wedi'i ddatblygu gan dîm o wyddonwyr, gan gynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe.

Y dull mwyaf poblogaidd o dynnu halen (sodiwm clorid) o ddŵr y môr yw osmosis gwrthdro, sy'n defnyddio pilen fandyllog sy'n gadael moleciwlau dŵr drwodd ond ddim halen.

Fodd bynnag, mae'r dull hwn yn gofyn am bwysedd mawr a llawer iawn o drydan. Yn aml, mae'r bilen yn cael ei thagu, sy'n lleihau effeithlonrwydd y broses.

Nid yw'r dechneg newydd, a ddatblygwyd gan dîm o wyddonwyr o Brifysgolion Caerfaddon, Abertawe a Chaeredin, yn defnyddio unrhyw bwysedd allanol ond yn hytrach, ychydig bach o ynni trydanol i dynnu ïonau clorid drwy'r bilen tuag at electrod sydd wedi'i wefrio'n bositif.

Mae hyn yn achosi i foleciwlau dŵr gael eu gwthio drwodd ar yr un pryd â'r clorid, ychydig fel piston.

Yn y cyfamser, mae ïonau sodiwm yn aros ar ochr arall y bilen, wedi'u hatynnu gan yr electrod a wefrwyd yn negatif. 

Mae’r ïonau clorid wedyn yn cael eu hailgylchu'n ôl i'r siambr sy'n cynnwys y dŵr hallt a chaiff y broses ei hailadrodd, gan dynnu mwy a mwy o foleciwlau dŵr drwddo'n araf fach.

Yr Athro Frank Marken, o Ganolfan Arloesi Dŵr a Sefydliad Cynaliadwyedd Prifysgol Caerfaddon, a arweiniodd yr astudiaeth, ac mae'n rhagweld y gellid defnyddio hyn ar raddfa fach lle mae angen dŵr yfed ond lle nad oes isadeiledd ar gael, megis mewn ardaloedd anghysbell neu drychineb.

Dywedodd yr Athro Marken :

“Ar hyn o bryd, mae osmosis gwrthdro yn defnyddio cymaint o drydan, mae angen ei orsaf ynni ei hun i ddihalwyno dŵr, sy'n golygu ei bod hi'n anodd cyflawni hyn ar raddfa lai.

 Gallai ein dull ni gynnig ateb amgen ar raddfa lai, ac oherwydd y gellir tynnu'r dŵr heb unrhyw sgil-gynhyrchion, bydd hyn yn arbed ynni ac ni fydd yn cynnwys gorsaf brosesu ar raddfa ddiwydiannol.

Yn ogystal, mae ganddo'r potensial i gael ei leihau i'w ddefnyddio mewn cymwysiadau meddygol megis systemau dosio ar gyfer cyffuriau megis inswlin."

Dywedodd Dr Mariolino Carta, Uwch-ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn rhan o'r ymchwil:

"Mae gan ddeunyddiau microfandyllog botensial enfawr, yn enwedig wrth wahanu a phuro dŵr, ond hefyd mewn catalysis. Yn y dyfodol, bydd deunyddiau a phrosesau hyd yn oed yn well ar gael. 

Mae pilennau yn faes addawol iawn ym maes cemeg deunyddiau. Er enghraifft, bydd prosiect newydd yn dod allan cyn hir o'm grŵp i a fydd yn mynd i'r afael â dal ac ailddefnyddio CO2 ar yr un pryd.  Bydd hyn yn cyfyngu ar ei gyfraniad at gynhesu byd-eang ac, ar yr un pryd, yn ei droi'n cyfansoddion o werth ychwanegol megis tanwydd. Mae hwn yn fater hynod heriol mynd i'r afael ag ef".

Hyd yn hyn, mae'r dechnoleg ar y cam profi cysyniad, gan drosi ychydig o filimetrau'n unig. Fodd bynnag, mae'r tîm bellach yn chwilio am bartneriaid ar gyfer cydweithio posib a buddsoddiad i uwchraddio'r broses i litr, gan eu galluogi nhw i gyfrifo'r defnydd o ynni'n fwy cywir.

Yn ogystal, hoffai'r tîm archwilio cymwysiadau posib eraill megis prosesau sychu neu adfer dŵr o ffynonellau gwahanol.

Meddai'r Athro Jan Hoffman, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Arloesi Ymchwil Dŵr (WIRC) yng Nghaerfaddon:

“Rwy’n credu y gallai’r darganfyddiad hwn gael effaith chwyldroadol ar y broses o ddihalwyno dŵr y môr, a hefyd ar gyfer prosesau deunyddiau sychu ac adfer dŵr.

“Wrth gwrs, mae cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd er mwyn creu technoleg ar raddfa lawn yn seiliedig ar y darganfyddiad diweddar hwn, ond mae hi bendant yn edrych yn addawol ac yn arloesol iawn o'i chymharu â thechnolegau pwmpio a dihalwyno presennol."

Mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi yn ACS Publications.

Cydnabyddiaeth am y stori:  Prifysgol Caerfaddon

Adran Cemeg Prifysgol Abertawe 

Rhannu'r stori