Llun o bobl ifanc o'r frest i lawr yn chwarae pêl-droed ar gae awyr agored

Mae effeithiolrwydd chwaraeon fel ffordd o fynd i'r afael â throseddau ieuenctid wedi cael ei ddadansoddi gan academyddion o Gymru a bydd eu canfyddiadau bellach yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i lywio arweinwyr yr heddlu.

Archwiliodd arbenigwyr yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) bedair rhaglen sy'n cefnogi bron 4,000 o bobl ifanc ledled Cymru i weld sut gellid eu hoptimeiddio i helpu i leihau troseddu gan bobl ifanc. Ymysg eu canfyddiadau oedd yr angen i luoedd rannu arferion gorau a gwella’r ffordd y maent yn cyfathrebu am y gwersi a ddysgwyd ganddynt drwy gynnig gweithgareddau corfforol.

Mae WIPAHS yn rhwydwaith ledled Cymru sy'n galluogi pob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru i weithio gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd er mwyn helpu i greu cymdeithas iachach. 

Mae WIPAHS newydd ryddhau ei drydydd adroddiad blynyddol sy'n nodi'r prosiectau a'r themâu y mae ei arbenigwyr wedi cymryd rhan ynddynt dros y 12 mis diwethaf. 

Un o'r rhaglenni allweddol oedd gwerthusiad o'r fenter Addysg Actif y Tu Hwnt i'r Diwrnod Ysgol lle mae ysgolion yn rhoi mynediad at chwaraeon a gweithgareddau corfforol y tu hwnt i oriau ysgol. 

Darganfu'r ymchwilwyr fod y polisi wedi meithrin perthnasoedd llwyddiannus rhwng ysgolion a'u cymunedau yn ogystal â chyfranogiad cynyddol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Deilliodd llawer o'r ymchwil a gafodd ei chynnwys yn yr adroddiad o gyfres o sioeau teithiol WIPAHS yr aeth ymarferwyr ac academyddion iddynt ledled Cymru. Roedd y digwyddiadau mor llwyddiannus y mae'r tîm eisoes yn cynllunio rhagor ar gyfer eleni. 

Mae'r prosiectau eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Y Cynllun Hamdden Actif i Bobl dros 60 oed, sy'n ceisio annog gweithgareddau i ddefnyddwyr hŷn mewn canolfannau hamdden awdurdodau lleol;
  • Cerdded Nordig i bobl ifanc â sesiynau rhagflas a gynigir mewn ysgolion cynradd gan hyfforddwr; a
  • Gwerthusiad o Ogledd Cymru Actif, partneriaeth o 18 o sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a heriau gweithgarwch corfforol allweddol yn y rhanbarth.

Sefydlwyd WIPAHS yn 2019 ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o brifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor, Aberystwyth, Metropolitan Caerdydd a Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chwaraeon Cymru. 

Meddai Cyd-gyfarwyddwr WIPAHS, yr Athro Melita McNarry, o adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych i WIPAHS wrth i gynifer o brosiectau diddorol gael effaith ar ymarfer a pholisïau ledled Cymru. Yn wir, mae hyn wedi arwain at ehangu ein harweinwyr themâu i gynnwys arweinydd materion cyhoeddus a pholisïau. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn ein helpu i barhau i gyflawni ein nodau o ddefnyddio ymchwil i gael effaith ar y byd iawn. 

“Mae cydweithrediad yr holl sefydliadau addysg uwch ledled Cymru'n amhrisiadwy ac rydyn ni'n diolch i'r rhai sy'n cydweithredu â ni am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.” 

Ychwanegodd Cyd-gadeirydd Bwrdd Rheoli Strategol y Sefydliad, Owen Hathaway, o Chwaraeon Cymru: “Er mwyn sicrhau ein bod ni'n buddsoddi ein cyllid a'n hadnoddau ehangach i gael yr effaith fwyaf, rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae WIPAHS yn parhau i gynnig yr her feirniadol a'r ymchwil adeiladol angenrheidiol i lywio hynny.

“Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfrwng gwych i arddangos safon ac ehangder ei waith, gyda phwyslais ar Gymru gyfan, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd hynny'n mynd o nerth i nerth dros y 12 mis nesaf.” 

Ychwanegodd yr Athro Kelly Mackintosh, y Cyd-gyfarwyddwr: “Mae gwneud ymchwil yn un peth, ond y peth pwysig yw defnyddio’r ymchwil honno yn ymarferol. Felly, mae’n bleser, yn ogystal â bod yn hanfodol, fod pobl ‘ar lawr gwlad’ sy'n gyfrifol ac sydd wrth wraidd hyrwyddo gweithgarwch corfforol ledled Cymru yn ceisio cyngor neu werthusiadau gennym.” 

@WIPAHSCymru & Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon (WIPAHS) - LinkedIn

 

Rhannu'r stori