Tri llun ar wahân o blant ysgol mewn ystafell ddosbarth yn cymryd rhan mewn gwers dan arweiniad addysgwraig fenywaidd.

Mae Prifysgol Abertawe'n helpu i annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.

Mae wedi ymuno ag arbenigwyr addysg 2B Enterprising i gynnig gwersi amhrisiadwy mewn busnes, mentergarwch a gwydnwch i ddisgyblion Ysgol Gynradd Cwmglas yn Abertawe. 

Dyma bartneriaeth ddiweddaraf rhaglen The Bumbles of Honeywood sy'n ceisio dod â menter addysgol yn fyw drwy gysylltu sefydliadau ag ysgolion lleol. O ganlyniad, gall disgyblion gael mynediad at adnoddau addysgol benodol - llyfrau stori, cynlluniau gwersi ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho - wedi'u hariannu gan eu partner. Gall y rhain ysbrydoli sgiliau entrepreneuraidd plant a'u hannog nhw i ddysgu am fenter yn y dosbarth mewn ffordd llawn hwyl ac ysgogol.  

Yn gyfnewid, bydd sefydliadau'n cael y cyfle i feithrin perthynas â'u hysgolion partner, sy'n gwella ymgysylltu â'r gymuned ac yn cryfhau sgiliau cyflogaeth a mentergarwch yn y dyfodol. 

Prifysgol Abertawe yw'r sefydliad diweddaraf i gofrestru ar gyfer y bartneriaeth addysgol, gan ymuno â chwmnïau blaenllaw gan gynnwys Swansea.com, Sony, Raven Delta Group a'r Grid Cenedlaethol.    

Meddai'r Athro Louisa Huxtable-Thomas, o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym yn angerddol am annog ein staff a'n myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd. Mae cefnogi pobl ifanc ac ysgolion gyda dysgu arloesol fel 2B Enterprising yn estyniad o'n hymrwymiad deuol i gefnogi cymunedau a datblygu gweithlu arloesol a gwydn yn y dyfodol ar gyfer de Cymru.

Cafwyd dechrau gwych i'r bartneriaeth pan aeth Lucy Griffiths, pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe i ymweld â'r ysgol yn Winch Wen i wylio rhai o'r sesiynau cychwynnol a chwrdd â'r disgyblion sy'n cymryd rhan.  

Meddai Jayne Brewer, Prif Weithredwr 2B Enterprising: “Rydym yn falch o groesawu Prifysgol Abertawe i deulu 2B Enterprising. Mae rhaglen The Bumbles of Honeywood yn ffordd wych o addysgu pobl ifanc am fanteision mentergarwch ac addysg entrepreneuraidd a hoffem ddiolch iddynt am eu cymorth. 

"Diolch i gymorth sefydliadau fel Prifysgol Abertawe, mae cannoedd o ddisgyblion bellach yn gweithio gydag ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gyda disgyblion a sefydliadau fel ei gilydd, yn gweld manteision y rhaglen unigryw hon. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 2B Enterprising wedi gweithio gyda mwy na 100 o bartneriaid corfforaethol mewn sectorau mor amrywiol ag adeiladu, lletygarwch, cyllid, technoleg, manwerthu a thwristiaeth.

 

 

Rhannu'r stori