Baban yn bwydo ar y fron.

Dangosodd astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe y bu cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn ystod y pandemig.

Canfu'r ymchwil, a oedd yn cynnwys pob menyw yng Nghymru a roddodd enedigaeth rhwng 2018 a 2021, fod cyfraddau bwydo ar y fron chwe mis wedi genedigaeth yn uwch yn ystod Covid o'u cymharu â'r cyfnod cyn y pandemig - gyda chyfraddau'n cynyddu o 16.6 y cant cyn y pandemig i 20.5 y cant yn 2020.

Canfu'r astudiaeth hefyd gydberthynas gref rhwng bwriad mam i fwydo ar y fron a'r tebygolrwydd o fwydo ar y fron yn unig am chwe mis.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell bwydo ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf bywyd babi.  Fodd bynnag, mae cyfraddau bwydo ar y fron yn y Deyrnas Unedig ymysg y rhai isaf yn y byd.

Er mwyn deall y broblem hon yn well, nod ymchwilwyr Ganwyd yng Nghymru sy'n rhan o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe oedd archwilio effaith y pandemig ar gyfraddau a hyd y cyfnod bwydo ar y fron. Hefyd, archwiliodd y tîm a oedd bwriad mam i fwydo ar y fron wedi dylanwadu ar faint o amser y bu'n bwydo ei babi ar y fron yn unig.

Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi ar-lein gan y BMJ. Dadansoddodd yr astudiaeth ddata dienw gan Fanc Data SAIL, gan gysylltu gwybodaeth o set ddata'r Dangosyddion Mamolaeth (MIDS) a'r set ddata Genedigaethau a Bwydo ar y Fron gan Iechyd Plant Cymunedol Cenedlaethol (NCCH).

Archwiliodd y tîm ddwy set o ymatebion i archwilio'r cysylltiad rhwng bwriadau bwydo ar y fron a hyd y cyfnod bwydo ar y fron. Daeth y set gyntaf o'r arolwg Ganwyd yng Nghymru, a fu'n gofyn i fenywod beichiog sut roeddent yn bwriadu bwydo eu babi.

Gwnaeth yr ail set, o ddata'r MIDS, gofnodi bwriadau mamau ar ôl rhoi genedigaeth. Drwy gymharu ymatebion o'r ddwy ffynhonnell, gallai'r ymchwilwyr archwilio sut bu bwriadau mam yn ystod beichiogrwydd ac ôl-enedigol yn dylanwadu ar fwydo ar y fron.

Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd cysylltiad cryf rhwng bwriad i fwydo ar y fron a thebygolrwydd uwch o fwydo ar y fron yn unig am chwe mis. Roedd menywod a oedd yn bwriadu bwydo ar y fron 27.6 gwaith yn fwy tebygol o barhau i fwydo ar y fron yn unig am y chwe mis a argymhellir o'u cymharu â'r rhai nad oeddent yn bwriadu bwydo ar y fron;
  • Roedd cyfraddau bwydo ar y fron ar ôl chwe mis yn uwch yn ystod Covid o'u cymharu â'r cyfnod cyn y pandemig. Cynyddodd y cyfraddau o 16.6 y cant cyn y pandemig i 20.5 y cant yn 2020; ac
  • roedd mamau duon yn llawer mwy tebygol o fwydo ar y fron yn unig am chwe mis na mamau o grwpiau ethnigrwydd eraill.

Yn seiliedig ar ei chanfyddiadau, mae'r astudiaeth yn cynnig ymyriadau wedi'u targedu yn ystod beichiogrwydd i annog cymhelliant a bwriad i fwydo ar y fron a datblygu polisïau a systemau cymorth i alluogi teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'u babanod. Gall camau gweithredu fel absenoldeb mamolaeth a thadolaeth gyfrannu at wella hyd y cyfnod bwydo ar y fron.

Meddai'r prif awdur, Hope Jones: "Mae ein hymchwil yn argymell y gallai ymyriadau sy'n hybu cymhelliant i fwydo ar y fron yn ystod beichiogrwydd, neu hyd yn oed cyn beichiogrwydd, wella hyd y cyfnod bwydo ar y fron.

"Yn ogystal, efallai fod agweddau ar y pandemig, fel gweithio gartref neu fwy o amser gyda phartneriaid, wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar hyd y cyfnod bwydo ar y fron. Felly, mae’n bosib y gall polisïau ac arferion sy'n hwyluso amser teuluol wella hyd y cyfnod bwydo ar y fron."

Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth: "Mae gan fwydo ar y fron fanteision iechyd sylweddol i famau a babanod ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn iechyd y cyhoedd gan ei fod yn ffordd effeithiol o ran cost o atal salwch, lleihau costau gofal iechyd a hybu iechyd y boblogaeth.

"Mae ein canfyddiadau'n cyfrannu at y corff cynyddol o dystiolaeth ynghylch bwydo ar y fron. Drwy ddeall yr hyn sy'n dylanwadu ar ba mor hir y mae mamau'n bwydo eu babanod ar y fron, gallwn greu ffyrdd effeithiol o annog a chefnogi bwydo ar y fron – gan gynyddu nifer y bobl sy'n bwydo ar y fron, hyd y cyfnod bwydo ar y fron a chanlyniadau iechyd mamau a phlant."

Darllenwch yr erthygl lawn a dysgwch ragor am garfan Ganwyd yng Nghymru

 

Rhannu'r stori