Golwg o'r cefn ar fenyw â mwgwd diogelu’n sefyll dan do ac yn edrych allan drwy ffenestr.

Mae astudiaeth newydd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi archwilio'r rhesymeg dros greu’r polisi i warchod pobl agored i niwed yn glinigol rhag COVID-19. Mae wedi canfod bod llunwyr y polisi wedi bwriadu iddo wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ond nad oeddent yn gwybod i ba raddau y byddai'n llwyddo na pha effeithiau eraill y byddai'n eu cael.

Roedd yr ymchwil, sy'n canolbwyntio ar y polisi yng Nghymru, yn rhan o astudiaeth EVITE Immunity a oedd yn werthusiad ehangach o effeithiau gwarchod ar ganlyniadau iechyd, costau ac imiwnedd.

Gwnaeth y tîm ymchwil gyfweld â phobl yn y sefydliadau niferus a gyfrannodd at ddatblygu'r polisi a chlywed sut roedd yn rhaid iddynt gydweithio'n gyflym i greu'r polisi. Mae'r astudiaeth yn esbonio'r rhesymeg, y cydrannau a'r prosesau a oedd yn ymwneud â'r polisi gwarchod, gan ddatgelu hefyd nad oedd y strategaeth wedi'i phrofi a'i bod yn seiliedig ar liniaru risgiau drwy synnwyr cyffredin yn hytrach na bod yn ymyrraeth ar sail tystiolaeth.  

Canfu'r ymchwilwyr fod y cynllun gwarchod yn seiliedig ar rai elfennau allweddol:

  • penderfynu pa bobl dylid eu gwarchod yn seiliedig ar feini prawf meddygol.
  • llunio rhestr o'r unigolion hyn.
  • rhoi cyngor iddynt ar warchod.
  • rhoi system gymorth ar waith i helpu’r rhai hynny a oedd yn gwarchod eu hunain i gael bwyd a chymorth ariannol.

Meddai Dr Alison Porter, o'r tîm Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth, a fu'n arwain yr astudiaeth:

“Wrth gwrs, creodd y fenter fawr hon heriau i'r rhai hynny a oedd yn ymdrechu i roi'r polisi ar waith ac i'r rhai hynny y bwriadwyd iddyn nhw elwa ohono. Rhoddodd ein hastudiaeth gyfle i ni ddeall effeithiau gwahanol y rhaglen warchod ar sefydliadau a phoblogaethau, ac mae'n amlinellu'r rhesymeg, y cydrannau a'r dulliau gweithredu.   

“Mae'r mewnbwn gan randdeiliaid allweddol wedi rhoi dealltwriaeth ychwanegol i ni o’r cysylltiadau achosol a fydd yn llywio ein gwerthusiad o ganlyniadau gwarchod ac yn ein helpu i ddeall ei effaith a'i gyfyngiadau.”

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn BMJ Open.

Ariennir prosiect EVITE Immunity drwy'r rhaglen astudiaethau craidd cenedlaethol (NSC) o imiwnedd – wedi'i chomisiynu gan Brifysgol Birmingham ar ran Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) –  ac mae'n cynnwys cydweithrediadau â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Warwig, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Rhannu'r stori