Graffeg du a gwyn o ymennydd

Mae tîm o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth £2.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer’s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu'n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.

Mae DPUK (Dementias Platform UK), y bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau'r cymorth, yn bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat sy'n cyfuno arbenigedd prifysgolion, elusennau a chwmnïau nwyddau fferyllol a thechnoleg i hwyluso darganfyddiadau hollbwysig wrth ymchwilio i ddementia.

Mae gan DPUK safleoedd ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt ac Abertawe, sy'n gartref i isadeiledd gwyddor data'r rhaglen, sef Porth Data DPUK.  Mae Porth Data DPUK yn amgylchedd ar gyfer storio a dadansoddi data lle cedwir mwy na 50 o setiau data amrywiol sy'n cynnwys cofnodion mwy na 3.5 miliwn o bobl.

Bydd y prosiect D3 (Democratising Dementia Data) a ddarperir gan DPUK yn cefnogi ADDI drwy ddemocrateiddio mynediad at ddata sy'n berthnasol i ddementia ar lefel fyd-eang. Rhaid i ADDI gael mynediad cyflym at setiau data aml-ddull mawr ar draws awdurdodaethau, a dyna'r her y mae’r prosiect D3 yn ceisio ymdrin â hi.

Dyfarnwyd cyllid uniongyrchol gwerth £1 miliwn i Brifysgol Abertawe i ddarparu'r isadeiledd a datblygu'r rhyngwyneb rhwng DPUK ac isadeileddau eraill er mwyn hwyluso mynediad ffederal byd-eang at ddata penodol i ddementia drwy The Alzheimer’s Disease Workbench  

Meddai'r Athro John Gallacher, Cyfarwyddwr DPUK: “Mynediad at ddata o safon uchel yw sbardun mwyaf ymchwil wyddonol. Mae hyn yn berthnasol yn enwedig i gyflyrau cymhleth fel dementia. Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gydag ADDI i sicrhau bod data sy'n barod at ddibenion ymchwil yn fyd-eang ar gael ar gyfer ymchwil i ddementia.”

Meddai'r Athro Simon Thompson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiol DPUK a Phrif Swyddog Technegol Porth Data DPUK: “Mae'n wych bod yn rhan o brosiect byd-eang mor arloesol. Fel tîm, rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu'r isadeiledd a'r rhyngwyneb ar gyfer D3, gan gynyddu'r setiau data sydd ar gael, a sicrhau ein bod ni'n meithrin y gallu i ateb y galw os bydd yn cynyddu.”

Meddai'r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol  DPUK ac Arweinydd Porth Data DPUK: “Mae dementia'n un o'r heriau mwyaf i iechyd y cyhoedd yn fyd-eang. Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda phartneriaid DPUK ar y prosiect hwn, a fydd yn galluogi ymchwilwyr, drwy The Alzheimer’s Disease Work Bench, i gael mynediad cyflym at ddata cyfoethog er mwyn helpu i drawsnewid ein dealltwriaeth o ddementia.”

Meddai Dr Tetsuyuki Maruyama, Cyfarwyddwr Gweithredol yn ADDI: “Mae gan y bartneriaeth y potensial i gyflymu ymchwil ar gyfer clefyd Alzheimer a dementias cysylltiedig. Drwy gydweithio ar y prosiect D3, bydd ADDI a DPUK yn galluogi mwy o ryngweithredu data ac yn ei gwneud yn haws i ymchwilwyr gydweithio a dod â dementia i ben.” 

 

Rhannu'r stori