Logo Gŵyl Llên Plant Abertawe

Mae rhestr o’r awduron sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Llên Plant Abertawe a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ystod penwythnos 7-8 Hydref, wedi’i chyhoeddi.

Bydd mwy na deg ar hugain o awduron plant enwog o Gymru a ledled y DU yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn fydd yn llawn hudoliaeth straeon, cerddoriaeth a drama gyda sesiynau’n cael eu cynnal yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ymysg yr enwau mae Hannah Gold, enillydd Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2022 am Last Bear, awdur toreithiog ac enillydd Medal Carnegie eleni, Manon Steffan Ros, Alex Nia Morais Bardd Plant Cymru 2023-25, Alex Wharton, Children’s Laureate Wales 2023-2025, Owen Sheers enillydd sawl gwobr arobryn a noddwr y Sioe Lyfrau Plant a Caryl Lewis enillydd sawl gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru.

Yn cynnal sesiynau hefyd fydd yr awduron roreithiog a phoblogaidd Liz Hyder, Catherine Fisher, Casia Wiliam, Rebecca F.John, Ivor Baddiel, Robin Bennett, Lee Newbery, Lesley Parr, Stephanie Burgis, E.L. Norry, Helen and Thomas Docherty a llawer mwy.

Trefnir yr Ŵyl gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a rhaglen DylanED mewn partneriaeth ag Achub y Plant Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Storyopolis, Cover to Cover a Sefydliad Austin Bailey.

Y nod yw galluogi plant o bob oed i gael mynediad i fyd rhyfeddol geiriau fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. Nid yw hyn bob amser yn bosibl i rai plant, yn enwedig o ystyried bod bron i 1 o bob 4 plentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan Achub y Plant, rhaglen DylanEd Prifysgol Abertawe a Storyopolis ystod o raglenni addysgol arloesol yn Abertawe a De Cymru sy'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a gwella canlyniadau i bob plentyn.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd bod amrywiaeth mor wych o awduron plant yn dod i Abertawe fis Hydref eleni. Bydd digonedd o ddigwyddiadau i ddewis o’u plith yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn crefftau, darlunio, cwisiau, creu straeon ac adrodd straeon drwy gydol y ddau ddiwrnod. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r hyn sy’n argoeli i fod yn benwythnos llawn hwyl a chyffro o eiriau, creadigrwydd a dychymyg.”

Er mwyn sicrhau bod plant o bob cwr o Abertawe a’r cyffiniau yn gallu mynychu’r ŵyl, cynhaliodd aelodau Cangen Achub y Plant Abertawe ginio mawreddog yng Ngwesty Norton House gan godi dros £2,300. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drefnu cludiant i blant a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn Abertawe i’r Ŵyl.

Roedd y cinio hefyd yn ddathliad o 65 mlynedd ers sefydlu Cangen Achub y Plant Abertawe yn 1958. Dyma un o ganghennau mwyaf a hynaf yr elusen yn y DU sydd wedi codi ymhell dros filiwn o bunnoedd dros y degawdau gan wneud gwahaniaeth i blant sy'n byw yn Abertawe ac yn fyd-eang.

Mae Dr Pam Muirhead, aelod hirsefydlog o’r gangen ers bron i hanner canrif a hefyd yr un a gafodd y syniad am ymgyrch codi arian enwog yr elusen ‘Diwrnod Siwmper Nadolig’ yn cofio rhai o’r prosiectau sydd wedi bod o fudd uniongyrchol i blant Abertawe.

“Dros y blynyddoedd rydym wedi trefnu ac ariannu partïon plant o fewn sawl cymuned ddifreintieig o gwmpas Abertawe a hefyd wedi gweithio gyda theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i gyflenwi adnoddau addysgol i’r plant. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cyngerdd yn Neuadd Brangwyn ym 1984 ym mhresenoldeb Ei Huchelder y Dywysoges Anne, Llywydd Achub y Plant, a gododd £47,000 ar gyfer apêl newyn Ethiopia; a phan gymerodd yr actores Catherine Zeta Jones ran yn yr ymgyrch ‘Skip Lunch’ gyda’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Bleddyn Bowen.

“Fel rhan o’n dathliadau hanner can mlwyddiant fe wnaethom gynnal Dawns Fawreddog yn Stadiwm Liberty a chodi dros £20,000 tuag at adeiladu ysgol newydd yn nhreflan wledig Kingsville yn Liberia, gan helpu plant yno i wireddu eu breuddwydion.” 

Cyn y pandemig cynhaliodd y gangen ginio llenyddol i blant a chystadleuaeth ysgrifennu ac maent wedi bod yn rhan annatod o gyd-drefnu yr Ŵyl Llên Plant hon ac yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad.

“Ein nod, mewn partneriaeth â Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a phartneriaid lleol eraill wrth drefnu’r Ŵyl hon, yw annog plant lleol i barhau i ddarganfod byd rhyfeddol y geiriau a chynnig amryfael o brofiadau yn enwedig i’r teuluoedd hynny sy’n ei chael hi’n anodd mynychu digwyddiadau o’r fath oherwydd y cynnydd mewn costau trafnidiaeth a’r argyfwng costau byw.”

Ychwanegodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru: “Drwy gydol yr haf rydym wedi clywed gan deuluoedd pa mor anodd yw hi arnynt i roi yr haf y byddent yn ei hoffi i’w plant, gyda chostau diwrnodau allan, bwyd a thrafnidiaeth i gyd yn rhwystrau enfawr i greu atgofion plentyndod. Rydym hefyd yn bryderus iawn am y dewisiadau amhosibl y bydd yn rhaid i deuluoedd eu gwneud y gaeaf hwn a fydd yn gadael llawer o blant yn oer ac o angen bwyd, gan ei gwneud yn anoddach fyth iddynt ganolbwyntio a dysgu yn yr ysgol.

“Mae’r Ŵyl Llên Plant hon yn rhan o brosiect cydweithredol gwych, a fydd yn rhoi cyfle i blant a’u teuluoedd gymryd rhan mewn sesiynau hwyliog a chwrdd ag awduron o bob cwr. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r trefnwyr am eu gwaith caled i alluogi hyn iddigwydd.”

Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad a sesiynau awduron ar gael o 4 Medi. 

Porwch y wefan am ragor o fanylion neu i archebu tocynnau

Rhannu'r stori