Mariia Hryhorian, Emma Frearson Emmanuel, Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, a Daryna Popova yn y derbyniad yn Nhŷ'r Arglwyddi. (Llun: Mariia Hryhorian).

Mariia Hryhorian, Emma Frearson Emmanuel, Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, a Daryna Popova yn y derbyniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Mae dau fyfyriwr o Wcráin sy'n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd i dderbyniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan nodi diwedd blwyddyn gyntaf partneriaeth efeillio rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin.

Ymunodd y myfyriwr meddygaeth Mariia Hryhorian a'r myfyriwr busnes Daryna Popova â myfyrwyr eraill o Wcráin, is-gangellorion prifysgolion, seneddwyr a buddiolwyr y rhaglen yn y digwyddiad i goffáu pen-blwydd y bartneriaeth efeillio arloesol. 

Sefydlodd Universities UK International (UUKi) y fenter efeillio, mewn partneriaeth â Cormack Consultancy Group (CCG), yn fuan ar ôl yr ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin. Mae wedi arwain at oddeutu 90 o bartneriaethau hyd yn hyn, gan gynnwys un rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU) ym Mykolaiv. Mae'r partneriaethau hyn yn cefnogi academyddion o Wcráin i barhau â gweithgareddau addysgu ac ymchwil hollbwysig ac yn rhoi'r cyfle i rai myfyrwyr astudio dramor mewn prifysgol bartner.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys areithiau gan yr Arglwydd Jo Johnson a Jamie Arrowsmith, Cyfarwyddwr UUKi, a chyflwyniadau gan staff a myfyrwyr o brifysgolion yn Wcráin.

Mae Mariia a Daryna yn dod o PMBSNU, sydd hyd yn hyn wedi anfon 20 o fyfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae staff a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi PMBSNU.

Meddai Mariia: “Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am y fraint hon ac am wneud y profiad bythgofiadwy hwn yn bosib. Fel myfyriwr meddygaeth o Wcráin, roedd cwrdd â phobl o bwys a chyfnewid syniadau â chyd-fyfyrwyr yn gwireddu breuddwyd. Mae rhaglenni fel y rhain yn fuddsoddiadau yn nyfodol ein gwlad, gan mai'r myfyrwyr yw'r rhai hynny a fydd yn datblygu ein heconomi ac yn ailadeiladu ein cenedl ar ôl y rhyfel.”

Meddai Daryna: “Roedd yn braf iawn cael gwahoddiad i'r digwyddiad hwn. Ond ar yr un pryd, roedden ni'n teimlo bod gennyn ni gyfrifoldeb mawr gan fod Mariia a minnau'n cynrychioli Prifysgol Abertawe a PMBSNU yn ein gwlad frodorol ac roedden ni'n gyfrifol am ein holl fyfyrwyr. Roedd yn bwysig iawn i ni glywed a theimlo unwaith eto yr holl gefnogaeth mae'r DU yn ei dangos tuag at ein gwlad.

“Yn y digwyddiad hwn, rhannodd llawer o fyfyrwyr o brifysgolion eraill yn Wcráin eu straeon, gan ysbrydoli llawer o'r gwesteion. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn bresennol mewn digwyddiad o'r fath ac i gynrychioli ein prifysgolion. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a dderbyniais i drwy'r rhaglen gyfnewid hon, ac rwy'n credu y bydd llawer mwy o fyfyrwyr yn mwynhau’r profiad bythgofiadwy hwn ac yn datblygu tuag at ein dyfodol cyffredin.”

Mae'r Brifysgol wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau fel rhan o gytundeb y bartneriaeth â PMBSNU. Mae myfyrwyr o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd wedi codi mwy na £1,000 tuag at roi cymorth materol ar gyfer cyfarpar meddygol a chyfarpar arall. Hefyd, mae'r data wedi cael ei ddileu o weinyddion cyfrifiaduron nad oeddent yn cael eu defnyddio gan y Brifysgol mwyach ac maent yn cael eu cludo i PMBSNU i helpu i wneud iawn am y systemau cyfrifiadurol sydd wedi cael eu dinistrio gan fomiau. Mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu mwy o fyfyrwyr a staff yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod ac i atgyfnerthu ei phartneriaeth â PMBSNU.

Rhannu'r stori