Yn y llun o'r chwith i'r dde: Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, a Michael Draper, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Addysg

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, a Michael Draper, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Addysg.

Dychwelodd Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, i'w alma mater yn ddiweddar i rannu llwybr trawiadol ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe a'i gynnal yn Narlithfa Richard Price ar Gampws Parc Singleton ar 14 Mawrth 2023.

Yn ystod ei sgwrs, trafododd Asim y rhwystrau roedd yn rhaid iddo eu goresgyn ar ei ffordd i'r brig, gan annog y gynulleidfa i ddysgu gwersi ei brofiadau.

Esboniodd Asim hefyd sut ymdriniodd yn llwyddiannus â chynwysoldeb, neu ddiffyg cynwysoldeb yn aml, yn y gweithle.

Wrth ddychwelyd i Brifysgol Abertawe, meddai Asim: “Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i ddychwelyd i'r lle a oedd yn gartref i mi am gyhyd a hel atgofion am yr holl brofiadau anhygoel a gefais i yno.

“Gwnaeth Prifysgol Abertawe gymaint i'm datblygu, yn academaidd, yn ysbrydol, yn ddeallusol a hyn yn oed yn gorfforol!”

Ers graddio o'r Brifysgol ym 1996 gyda gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, mae Asim wedi datblygu gyrfa lwyddiannus yn y Gwasanaeth Sifil, gan ddatblygu Strategaeth Prevent Llywodraeth Cymru cyn ymuno â'r Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth yn y Swyddfa Gartref.

Yn 2011, gwnaeth waith ymgynghori ynghylch gwrthderfysgaeth yn ystod y cyfnod cyn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 ac ef bellach yw Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref.

Mae Asim hefyd yn cynnal dosbarthiadau gwybodaeth Islamaidd ar sail wirfoddol ac mae ganddo gysylltiad agos â Mosg Prifysgol Abertawe.

Gan drafod yr anrhydedd o groesawu Asim yn ôl, meddai Michael Draper, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Addysg: “Roedd Asim yn hael wrth neilltuo amser i drafod ei brofiad, gan bwysleisio pwysigrwydd cymeriad, uniondeb a bod yn driw i chi eich hun fel priodoleddau allweddol wrth ddatblygu gyrfa.

“Roedd yn wych clywed Asim yn cydnabod bod Abertawe'n brifysgol amrywiol a chynhwysol, o ystyried ymroddiad cydweithwyr a myfyrwyr i feithrin cymuned sefydliadol fywiog lle gellir gwireddu uchelgeisiau ac achub ar gyfleoedd. Yn ogystal, bu Asim yn ddigon caredig i gwrdd â myfyrwyr unigol yn syth ar ôl y digwyddiad i gynnig rhagor o gyfarwyddyd.”

Ychwanegodd Jess Loomba, Rheolwr Gwasanaethau Cyflogadwyedd yn Academi Cyflogadwyedd Abertawe: “Ysbrydolodd Asim bawb a oedd yn bresennol, o fyfyrwyr i raddedigion cynnar, gan rannu gwersi a ddysgwyd ar ei lwybr personol, am wytnwch, cydbwysedd, cynwysoldeb ac ymfalchïo ynoch chi eich hun fel unigolyn, mewn bywyd a thrwy eich gyrfa.

“Hoffen ni ddiolch i Asim am ei holl gyfarwyddyd ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei groesawu yn ôl i Brifysgol Abertawe yn y dyfodol.”

Gall myfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Abertawe ddysgu am ddigwyddiadau sydd i ddod a chyrchu cymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i'w hanghenion drwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe – ceir rhagor o wybodaeth drwy e-bostio employmentzone@abertawe.ac.uk.

Rhannu'r stori