Celloedd canser

Mae seleniwm yn ficro-faetholyn sy'n chwarae rôl hanfodol mewn iechyd dynol ond mae'n wenwynig mewn lefelau uchel. Fodd bynnag, dengys ymchwil fiofeddygol newydd fod gan seleniwm nodweddion gwrth-ganser pan gaiff ei ddefnyddio mewn dosau uchel.

I oresgyn y problemau o ran ei wenwyndra cynhenid, gwnaeth tîm ymchwil rhyngwladol, dan arweiniad yr Athro Steve Conlan ym Mhrifysgol Abertawe a'r Athro Laurent Charlet yn Université Grenoble Alpes, brofi a ellid datblygu nanoronynnau seleniwm fel dull posib o drin canser. 

Gwnaeth yr ymchwilwyr ddangos bod y nanoronynnau seleniwm yn effeithiol iawn wrth ladd modelau celloedd canser yr ofari a dyfwyd ar ffurf 3D i efelychu amgylchedd brodorol tiwmor. 

Aethant ymlaen i ddarganfod mecanwaith biolegol newydd sy'n atgyfnerthu sut mae selenwim yn debygol o beri'r effaith wrth-ganser hon. Gwnaethant ganfod bod seleniwm yn achosi newidiadau yng ngweithgarwch ensymau o'r enw histone methylatransferases. Mae'r ensymau hyn yn rheoleiddio prosesau epigenetig – h.y. sut y mae amodau amgylcheddol yn gallu newid y ffordd y mae genynnau'n gweithio.  Yn wahanol i fwtadiadau genetig, nid yw newidiadau epigenetig yn newid y dilyniant DNA ac mae modd eu gwrthdroi. Fodd bynnag, maent yn newid sut mae'ch corff yn darllen dilyniant DNA.  

Cynhaliwyd yr ymchwil hon gan Dr Benoit Toubhans, fel rhan o’i brosiect PhD ar y cyd a gefnogir gan bartneriaeth strategol Abertawe-Grenoble, a  Dr Noor Al Kafir, cymrawd CARA yn labordy'r Athro Conlan, ar y cyd â chydweithredwyr yn y cyfleuster syncrotron yn Grenoble a Phrifysgol Stuggart

Cyhoeddwyd eu canfyddiadau yn y cylchgrawn blaenllaw Redox Biology. 

Gwnaeth yr Athro Conlan, sy'n bennaeth y grŵp Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ddisgrifio'r prosiect fel ymdrech wyddonol ardderchog. 

Meddai: “Roedd yn un o'r eiliadau eithaf prin hynny pan sylweddolwch fod y tîm wedi gwneud darganfyddiad biolegol newydd. Mae Noor a Benoit yn wyddonwyr hynod ddawnus, ac o ganlyniad i'w sgiliau a'u hymrwymiad, roedd modd i ni wneud y datblygiad hwn. Mae Partneriaeth Abertawe-Grenoble yn dangos yn glir sut mae partneriaethau rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol yn arwain y ffordd mewn darganfyddiadau gwyddonol.” 

Gobaith y tîm yw y bydd y darganfyddiad newydd hwn yn darparu mewnwelediadau i weithrediadau nanoronynnau seleniwm, gan ddweud ei bod bellach yn bwysig ystyried yr effeithiau gwrthocsidiol traddodiadol ac effeithiau methyleiddio histonau gwahanol seleniwm a'i ddatblygu’n therapi canser. 

Rhagor o wybodaeth am ymchwil canser ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori