Arwyddo'r siarter

AstraZeneca, sef prif gwmni gwyddor bywyd y Deyrnas Unedig, yw’r sefydliad diweddaraf i ymuno â siarter i hyrwyddo arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru.

Heddiw, mae’r cwmni wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gan ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu ffyrdd newydd o ganfod afiechydon a’u trin, a chyflawni’r hyn sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y cydweithio hwn yn cyfuno nodau polisi ar draws y sector iechyd a’r economi yng Nghymru, gan helpu i flaenoriaethu cyflwyno meddyginiaethau a thechnolegau gofal iechyd arloesol , a hynny ar sail gwerth sy’n cael ei greu i bobl a chymunedau.

Dywedodd Prif Swyddog Digidol ac Arloesi Llywodraeth Cymru, Mike Emery: “Mae gwyddoniaeth, data a thechnoleg newydd yn arwain at ddatblygiadau newydd yn y ffordd rydyn ni’n canfod afiechydon a’u trin, gan arwain at ganlyniadau llawer gwell i gleifion. Mae’r siarter hon yn dod â’r GIG, y llywodraeth, y byd academaidd a phartneriaid yn y diwydiant at ei gilydd i archwilio a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gofal iechyd yng Nghymru. Bydd o gymorth i gyflwyno arferion gofal iechyd, technoleg a meddyginiaethau arloesol yng Nghymru a fydd yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell i bawb. Mae’r gwaith hwn yn allweddol i gyflawni Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth fel y nodir yn strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach.”

Dywedodd Llywydd AstraZeneca UK, Tom Keith-Roach: “Yn AstraZeneca, rydyn ni’n angerddol am drawsnewid bywydau cleifion er gwell. Drwy gydweithio â’r system gofal iechyd a’r byd academaidd, gallwn drawsnewid canlyniadau iechyd ar lefel y boblogaeth gyda’n gilydd a hynny drwy fodelau cyflawni gofal arloesol a chynaliadwy. Rydyn ni’n falch ein bod yn datblygu ein partneriaethau pwrpasol presennol gyda Phrifysgol Abertawe a Byrddau Iechyd ledled y wlad i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru iachach. Gyda’n gilydd, rydyn ni eisoes yn gwella’r ffordd y mae miloedd o bobl yn cael diagnosis a chael eu trin. Enghreifftiau o hyn yw gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt drwy brofion genomig wedi’u targedu ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a mynd i’r afael ag ôl-groniad o achosion wedi’r pandemig ym maes gofal asthma ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Drwy’r Siarter hon, mae gennym bellach yr uchelgais gyffredin i ddatblygu partneriaethau fel y rhai hyn ar lefel genedlaethol. Mae AstraZeneca yn falch o weithio gyda Chymru, a gyda’n gilydd, dylem gael ein hysbrydoli gan yr hyn y gall gwyddoniaeth ei wneud.”

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Fel cenedl, mae Cymru ar flaen y gad ym maes Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth. Ers amser, mae ein sefydliad wedi cefnogi mentrau arloesol sy’n gwella canlyniadau cynaliadwy i gleifion a staff. Drwy’r Siarter hon, rydyn ni’n edrych ymlaen at gryfhau ein cysylltiadau â chydweithwyr ar draws sectorau, lle gallwn gefnogi prosesau mabwysiadu arloesi hanfodol, gan weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd a phartneriaid yn y diwydiant i ddod o hyd i atebion sy’n mynd i’r afael ag angen ac sy’n sicrhau gwerth.”

Dywedodd yr Athro Hamish Laing o Brifysgol Abertawe: “Sefydlwyd Prifysgol Abertawe gan ddiwydiant ac mae ganddi hanes hir o gefnogi partneriaethau diwydiant. Ers 2021, rydyn ni wedi bod yn falch o gynnal yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn ein Hysgol Reolaeth. Mae’r Academi’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n adnabyddus ledled y byd. Mae’r Academi yn darparu addysg, ymchwil ac ymgynghoriaeth ym maes Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth i gefnogi’r gwaith o’i gyflwyno yn rhyngwladol. Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gydag AstraZeneca a chyda’n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu dysgu a mabwysiadu arloesi sy’n cefnogi systemau iechyd cynaliadwy.”

Rhannu'r stori