Llun sy’n cyfuno derbynfa llety true student gyda myfyrwyr yn gweithio ar gyfrifiaduron ac eraill yn cerdded drwyddi â golwg allanol ar adeilad llety Seren.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno ar bartneriaeth â dau ddarparwr llety myfyrwyr a adeiladwyd at y diben (PBSA) i gynnig llety o safon uchel i fyfyrwyr yn y ddinas.

Mae'r brifysgol wedi llofnodi cytundeb tair blynedd â true student a Seren i ychwanegu at ei harlwy presennol i fyfyrwyr ar Gampws Parc Singleton, Campws y Bae a Thŷ Beck. Mae'r llety newydd ar gael i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a rhyngwladol a bydd yn gallu darparu ar gyfer hyd at 800 o fyfyrwyr – 550 o leoedd gyda true student a 250 gyda Seren.

Mae'r ddau safle mewn lleoliadau blaenllaw yng nghanol y ddinas. Mae Seren gyferbyn â gorsaf drenau Abertawe ac mae true student ar Heol Morfa, gyda golygfeydd o afon Tawe, ac mae'r ddau safle’n cynnig mynediad hawdd at wasanaethau bws uniongyrchol mynych i ddau gampws y brifysgol.

Yn yr un modd â holl breswylfeydd y brifysgol, mae'r safleoedd newydd hyn yn rhoi blas ar Brifysgol Abertawe i fyfyrwyr. Bydd y myfyrwyr yn rhan o'r rhwydwaith preswylwyr (ResNet) sy'n cyhoeddi gwybodaeth am ddigwyddiadau Undeb y Myfyrwyr, newyddion ac ymgyrchoedd myfyrwyr preswyl, ar gyfer yr undeb a'r ardaloedd preswyl. Byddant hefyd yn cael cymorth patrolau diogelwch a gwasanaeth ymateb i argyfyngau ddydd a nos, tîm rheoli preswylfeydd ar y safle a chynorthwywyr bywyd preswyl.

Cynigir amrywiaeth eang o opsiynau llety, gan gynnwys ystafelloedd en suite mewn fflatiau, ystafelloedd ar ffurf stiwdios, yn ogystal â llety hygyrch, ac mae'r costau yn unol â llety arall y brifysgol. Maent hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau ar y safle, gan gynnwys calendr digwyddiadau llawn, campfeydd, mannau cymdeithasol ac awyr agored, cyfleusterau barbeciw a mannau storio beiciau. Gall preswylwyr true student hefyd ymweld â Pharth Gwyliau, pizzeria a gardd, ac mae gan Seren deras, golchdy, popty Greggs a siop Tesco.

Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Abertawe:

“Rydyn ni'n falch o ddod i'r cytundeb newydd hwn â true student a Seren, a fydd yn golygu y bydd yr holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys y rhai hynny sy'n dod drwy Glirio, yn sicr o gael llety fel rhan o'n cynnig iddyn nhw. Mae hyn hefyd yn rhoi amrywiaeth hyd yn oed yn ehangach o ddewisiadau llety i'n myfyrwyr, gan gynnig blas hollbwysig ar Brifysgol Abertawe iddyn nhw ar yr un pryd.” 

Meddai Ben Morley, Rheolwr Gyfarwyddwr true student:

“Mae'r cydweithrediad hwn yn newyddion gwych i fyfyrwyr Abertawe, y bydd rhagor ohonyn nhw bellach yn cael y cyfle i brofi popeth y mae true student yn ei gynnig yn Abertawe, ac i'r brifysgol, sy'n awyddus i ehangu'r mathau o opsiynau llety y gall eu cynnig. Ond, y tu hwnt i hynny, dyma gymeradwyaeth wych i true student sy'n dangos pa mor bwysig yw hi i ddarparwyr edrych ymhellach nag adeiladau a rhoi gofal, profiad a lles myfyrwyr wrth wraidd eu gweithrediadau. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at feithrin y berthynas hon â Phrifysgol Abertawe i roi hwb gwirioneddol i brofiad myfyrwyr Abertawe.”

Meddai Adam Campbell o Seren:

“Mae Seren yn falch o fod mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ar y cytundeb enwebu tair blynedd hwn gan fod ein gweithredwr, CRM, wedi cael hanes llwyddiannus a hir o feithrin a chynnal cysylltiadau cryf â sefydliadau addysgol blaenllaw. Mae llety Seren o'r radd flaenaf yng nghanol Abertawe yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleusterau i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i weithio, gorffwys a chwarae.

“Mae Seren yn blaenoriaethu iechyd a lles myfyrwyr wrth i fentrau gael eu cynnal drwy'r flwyddyn gyfan ac mae'r tîm yn edrych ymlaen at gydweithrediad estynedig â Phrifysgol Abertawe ar y rhain. Mae'r unedau manwerthu ar y safle yn cynnwys Tesco, Greggs a Coffee Blue, sy'n gyfleus iawn o ran cadw lefelau egni myfyrwyr yn uchel yn ystod y cyfnodau astudio prysur hynny, a gall y gampfa, y cyrtiau pêl-fasged a'r gwasanaeth llogi beiciau am ddim gynnig seibiant dymunol ar ôl astudio. Mae Seren yn hyderus y bydd myfyrwyr o Brifysgol Abertawe'n cael profiad gwych wrth aros gyda ni a byddwn ni'n helpu i wneud eu hamser yn astudio yn Abertawe'n gofiadwy.”

Rhannu'r stori