Mae cynhyrchion naturiol yn sylweddau neu'n gyfansoddion a geir ym myd natur, organebau morol, bacteria, ffyngau a phlanhigion.

Bydd Abertawe yn arwain y ffordd yn y DU yn y sector ymchwil a menter o ran cynhyrchion naturiol, gan fod y Brifysgol wedi llwyddo mewn cais am gyllid gwerth £587,000 i greu canolfan newydd a adwaenir fel y BioHYB. 

Mae cynhyrchion naturiol yn sylweddau neu'n gyfansoddion a geir ym myd natur, organebau morol, bacteria, ffyngau a phlanhigion.

Nod y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw annog defnydd mwy helaeth o gynhyrchion naturiol yn y diwydiannau amaethyddol, fferyllol a gweithgynhyrchu er mwyn helpu'r ddinas a'r rhanbarth i fod yn fwy iach, gwyrdd a chynaliadwy.

Dyfarnwyd y cyllid i'r prosiect gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y ffordd yn fyd-eang wrth ymchwilio i gynhyrchion naturiol, sy'n cynnwys y biowyddorau, cemeg a pheirianneg fiocemegol, yn ogystal â manteisio ar ddatblygiadau o ran deallusrwydd artiffisial a bioleg gyfrifiadol.

Mae ymchwilwyr yn arloesi datblygiadau mewn meysydd megis rheoli pryfed sy'n blâu mewn modd ecogyfeillgar, datblygu bioblaladdwyr, biotechnoleg algaidd a microbaidd a systemau arloesol i fodelu anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Bydd y BioHYB yn creu rhwydwaith a fydd yn cysylltu ymchwilwyr academaidd â byd diwydiant, rhanddeiliaid cymunedol a chyrff cyhoeddus. Y nod a rennir fydd meithrin twf gwydn a chynaliadwy ym myd busnes – a chyfrannu at dargedau sero net – drwy ddatblygu dulliau arloesol sy'n seiliedig ar natur, gan wneud Abertawe'n ganolfan ragoriaeth yn y maes.

Bydd y BioHYB yn:

  • Cefnogi twf busnesau bio neu fiotechnoleg lleol drwy ddarparu arbenigedd ymchwil a datblygu. Bydd hyn yn cynnwys busnesau newydd a chwmnïau deillio.
  • Arwain at ddatblygu cynhyrchion naturiol a gwasanaethau newydd diolch i'r cydweithrediad rhwng arbenigedd academaidd a byd diwydiant. At y diben hwn, bydd cwmnïau bio a biotechnoleg yn rhwydweithio â chwmnïau gwyddor data a roboteg.
  • Hybu cymunedau drwy wella'r isadeiledd gwyrdd a hwyluso mynediad at gynhyrchion lleol sy'n seiliedig ar natur.
  • Hybu busnesau lleol oherwydd y nifer cynyddol o ymwelwyr y byddai'r gweithgareddau rhwydweithio a'r cynadleddau rhyngwladol arfaethedig yn eu denu.
  • Archwilio cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau bio a biotechnoleg sydd am adleoli i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.

Meddai Dr Farooq Shah, Rheolwr Prosiect y BioHYB Cynhyrchion Naturiol:

“Rydyn ni'n rhagweld y bydd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn bont rhwng ymchwil a byd diwydiant i helpu i greu eiddo deallusol a chynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae'r ymagwedd gydweithredol hon hefyd yn ymestyn i'n partneriaeth â chyrff cyhoeddus a diwydiannau, gan feithrin sgiliau'r gweithlu ar gyfer y sectorau sy'n datblygu.”

Meddai'r Athro Tariq Butt o Brifysgol Abertawe, cyd-arweinydd y prosiect:

“Drwy ein harbenigedd amlweddog a gwella sgiliau ein gweithlu lleol mewn modd strategol, rydyn ni'n gwthio Abertawe tuag at arwain y ffordd yn fyd-eang wrth arloesi cynhyrchion naturiol. Mae ein cysylltiadau cryf â byd diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang drwy ddulliau arloesol sy'n cael effaith.”

Ychwanegodd yr Athro Dan Eastwood o Brifysgol Abertawe, un o'r cyd-arweinwyr:

“Mae'r cynnig i greu llyfrgell cynhyrchion naturiol unigryw yn Abertawe'n rhagweld mai'r Brifysgol fydd prif ganolfan ragoriaeth y DU ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd.” Amlygodd fod cyfuno cyfleusterau sgrinio â thechnolegau in silico arloesol yn drawsnewidiol, gan hwyluso'r broses o ddatblygu cynhyrchion newydd yn gyflym.

Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a chwmni datblygu Hacer i archwilio ffynonellau cyllido a allai helpu i greu hyb deori yn y datblygiad bioffilig sydd bellach yn cael ei adeiladu yn Iard Picton yng nghanol y ddinas. Byddai'r hyb yn cynnig mannau ar gyfer labordai a swyddfeydd i fusnesau newydd a chwmnïau deillio.

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Mae prosiect y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn llawn haeddu ein cefnogaeth gan fod ganddo botensial anferth i roi Abertawe wrth wraidd maes arloesi cynhyrchion naturiol yn fyd-eang, yn ogystal â chyfrannu at ddinas sy'n fwy iach, gwyrdd a chynaliadwy yn y dyfodol.”

Addasiad o stori wreiddiol a gyhoeddwyd gan Gyngor Abertawe

 

 

Rhannu'r stori