Campws y Bae o'r awyr

Mae Prifysgol Abertawe'n dringo 118 o leoedd i gyrraedd y 307 safle ar y cyd, ei safle uchaf erioed, yn y rhifyn diweddaraf o Dablau Prifysgolion y Byd QS 2024.

Caiff yr 20fed rhifyn o Dablau Prifysgolion y Byd QS ei gyhoeddi gan ddadansoddwyr addysg uwch y byd, QS Quacquarelli Symonds ac mae'n enwi'r 3,000 o brifysgolion gorau'r byd.

Mae'r safle diweddaraf hwn yn gosod Abertawe ymysg y 21% gorau yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS.

Mae tablau QS yn ddadansoddiad cymharol awdurdodol o berfformiad prif brifysgolion y byd mewn dros 100 o wledydd.

Mae tablau QS 2024 yn dangos y canlynol hefyd am Brifysgol Abertawe:

  • Ymysg y 200 gorau am Enw Da Cyflogwr (yn y 193 safle, dringo 97 safle). Mae hyn yn seiliedig ar arolwg byd-eang sy'n gwerthuso canfyddiadau cyflogwyr o ran pa brifysgolion sy'n cynhyrchu'r graddedigion gorau.
  • Wedi dringo 46 safle i'r 418 safle am Enw Da Academaidd, yn seiliedig ar Arolwg Enw Da Academaidd QS, sy'n pwyso a mesur barn academaidd fyd-eang ar sefydliadau sy'n arddangos rhagoriaeth academaidd.
  • Ymysg y 500 gorau am ddyfyniadau, gan ddringo 37 safle i gyrraedd y 460 safle. Mae cymhareb QS yn mesur nifer y dyfyniadau ar gyfartaledd a geir fesul aelod cyfadran ac mae'n amcangyfrif effaith ac ansawdd y gwaith gwyddonol a wneir gan brifysgolion.
  • Ymysg y 250 o brifysgolion gorau'r byd am Gynaliadwyedd, dangosydd newydd a gyflwynwyd eleni, sy'n gwerthuso effaith gymdeithasol ac amgylcheddol prifysgolion fel canolfannau addysg ac ymchwil.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau'n gweld ein henw da byd-eang yn cael ei gydnabod yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS eleni. Mae'r garreg filltir anhygoel hon yn gosod Abertawe ymysg y 21% o sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd. Mae ein perfformiad rhagorol ar draws amrywiaeth o gategorïau'n amlygu ein hymrwymiad i ragoriaeth academaidd, effaith ar gymdeithas, ansawdd ymchwil a sicrhau bod ein graddedigion wedi'u harfogi â'r sgiliau a'r profiadau y mae cyflogwyr heddiw ac yfory yn eu gwerthfawrogi.   

"Rwy'n hynod falch o gymuned gyfan y Brifysgol, am ei hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod fel sefydliad o'r radd flaenaf."

Rhannu'r stori