Rhes dop o'r chwith i'r dde: Ruairi Bolton, Ruby Burgin, Bethan Charles, JL George, Joshua Jones, Emma Moyle. Rhes waelod o'r chwith i'r dde: Rachel Powell, Matthew G. Rees, Silvia Rose, Satterday Shaw, Emily Vanderploeg, Dan Williams.

Rhes dop o'r chwith i'r dde: Ruairi Bolton, Ruby Burgin, Bethan Charles, JL George, Joshua Jones, Emma Moyle. Rhes waelod o'r chwith i'r dde: Rachel Powell, Matthew G. Rees, Silvia Rose, Satterday Shaw, Emily Vanderploeg, Dan Williams.

Mae cynorthwy-ydd llyfrgell, dau athro Saesneg a myfyriwr prifysgol ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023.

Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau oll nas cyhoeddwyd yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at 5,000 o eiriau ar y mwyaf gan lenorion 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1991, ddeg gwaith hyd yn hyn, ac yn 2021 fe'i hail-lansiwyd gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Rhestr fer 2023:

  • Second to Last Rites gan Ruairi Bolton 
  • Kind Red Spirit gan Ruby Burgin
  • Save the Maiden gan Bethan Charles
  • Sunny Side Up gan JL George
  • Nos Da, Popstar gan Joshua Jones
  • The Pier gan Emma Moyle
  • Bricks and Sticks gan Rachel Powell
  • Harvest gan Matthew G. Rees 
  • Fish Market gan Silvia Rose
  • We Shall All Be Changed gan Satterday Shaw
  • Welcome to Momentum 2023 gan Emily Vanderploeg 
  • The Nick of Time gan Dan Williams

Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn £1,000 a bydd ei gynnig buddugol yn cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2023, a gyhoeddir gan Parthian Books ym mis Hydref 2023. 

Bydd Parthian yn cyhoeddi pob un o'r 12 o straeon yn yr antholeg. Bydd Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe, yn golygu'r casgliad, a fydd hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan y llenor ffuglen arobryn a'r beirniad gwadd Jane Fraser. Bydd pob un o'r llenorion ar y rhestr fer hefyd yn derbyn £100.

Meddai Jane Fraser: “Bu'n fraint ac yn bleser cael dewis dwsin o straeon byrion ar gyfer rhestr fer cystadleuaeth stori fer genedlaethol Rhys Davies 2023. Rydw i'n gwybod y bydd ystod mor amrywiol ac unigryw o storïwyr ‘Cymreig’ hyderus, cyfoes sydd wedi ennill eu lle ar y dudalen argraffedig – am y tro cyntaf yn achos sawl un ohonyn nhw – yn ennyn brwdfrydedd darllenwyr. Hoffwn i feddwl y byddai Rhys Davies yn falch o'i etifeddiaeth.”

Meddai Dr Canning, golygydd yr antholeg: “Mae'r straeon sy'n rhan o restr fer gwobr stori fer Rhys Davies 2023 yn disgleirio â llais a safbwynt didwyll. Dyma straeon sydd wedi eu gosod yng Nghymru, yn ogystal â gwledydd megis Sbaen a Japan, ac maen nhw'n archwilio bod a pherthyn, gadael a dyheu. Mae hi'n anrhydedd cynnwys gwaith y 12 awdur sydd ar y rhestr fer mewn antholeg arbennig sy'n bwrpasol i'r gystadleuaeth hon.”

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, 20 nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Cyhoeddir yr enillydd ar 21 Medi 2023, a chaiff yr antholeg ei lansio ddydd Iau 12 Hydref yn Waterstones yn Abertawe, yng nghwmni’r rhai hynny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a'r enillydd cyffredinol, Dr Elaine Canning, Jane Fraser a Richard Davies o Parthian.

Gweld casgliad y llynedd, Cree: The Rhys Davies Short Story Award Anthology.

Rhannu'r stori