Grŵp o 12 o bobl, pump ohonynt yn eistedd a saith yn sefyll y tu ôl iddynt mewn ystafell.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol y Frenhines, Belfast wedi helpu i ddarparu gofal llygaid sy'n newid bywydau pobl â diabetes ar ynys Bermuda.

Mae gan ynys Bermuda boblogaeth o oddeutu 64,000 o bobl ac mae'n hysbys bod tua 13 y cant ohonynt â diabetes. 

Mae darpariaeth gofal iechyd ar yr ynys yn dibynnu ar system gofal iechyd breifat. Gwaetha'r modd, mae llawer o bobl nad oes ganddynt yswiriant iechyd neu sydd heb yswiriant digonol. Felly, mae asesiadau iechyd hollbwysig a thriniaethau am gyflyrau meddygol cronig megis diabetes yn achosi caledi ariannol difrifol, ac mae llawer o bobl yn byw heb gael y rhain. 

Roedd yr Athro David Owens a Dr Becky Thomas, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhan o'r tîm arbenigol, ynghyd â Catherine Jamison o Belfast, a deithiodd i brifddinas Bermuda, Hamilton, i sgrinio llygaid pobl am ddiabetes am ddim am wythnos. 

Yr Athro Owens yw'r arweinydd clinigol ar gyfer cyflyrau retinopathi diabetig gyda Grŵp Ymchwil Diabetes Abertawe yn y Brifysgol, ac mae Dr Thomas yn Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Ymarfer Diabetes. Mae Catherine Jamison yn Uwch-ddadansoddwr Delweddau Offthalmig yn Belfast. 

Mae retinopathi diabetig yn gyflwr sy'n deillio o ddiabetes. Fe'i hachosir gan lefelau siwgr gwaed uchel sy'n niweidio cefn y llygad (retina) a gall beri i bobl fynd yn ddall os na chaiff ei ddiagnosio a'i drin. 

Gan weithio ym mhencadlys y Bermuda Diabetes Association a chlinig y cartref meddygol sy'n canolbwyntio ar gleifion (PCMH) yn Ysbyty Coffa'r Brenin Edward VII, sgriniodd y tîm gyfanswm o 171 o bobl â diabetes.

 

Cwblhaodd yr holl gyfranogwyr holiadur iechyd a chafodd eu taldra, eu pwysau, eu glwcos gwaed a'u pwysedd gwaed eu mesur hefyd. Yna gwnaethant ymgymryd â phrawf craffter golwg wedi'i ddilyn gan luniau a dynnwyd gan gamerâu llaw arbennig, ar fenthyg gan Optomed, cwmni technoleg gofal iechyd o'r Ffindir. 

Meddai'r tîm: “Gwelon ni lawer o achosion o retinopathi diabetig, ynghyd â sawl patholeg arall roedd angen eu hatgyfeirio i offthalmolegwyr. Mae'r lluniau retinol wedi cael eu graddio ac mae'r canlyniadau'n cael eu hasesu ar hyn o bryd.” 

Mae'r Bermuda Diabetes Association bellach yn gweithio gyda sawl offthalmolegydd a fydd yn cynnig apwyntiadau dilynol am ddim i'r rhai sy'n cael eu hatgyfeirio. Bydd elusennau eraill, gan gynnwys Lions International a Vision Bermuda, yn helpu i dalu am driniaethau yn ôl yr angen. 

Ychwanegodd y tîm: “Roedd yn wythnos hynod brysur a chynhyrchiol – daeth mwy nag 80 y cant o'r unigolion â diabetes a oedd wedi cadw lle i gael eu sgrinio, ac roedden nhw i gyd yn ddiolchgar iawn am gael eu hasesu am ddim. 

“Hoffen ni ddiolch i'r Bermuda Diabetes Association, yr holl wirfoddolwyr a fu'n cynorthwyo yn ystod yr wythnos, ac Optomed am helpu i wneud y daith yn llwyddiant mawr.” 

Cydnabu'r tîm gefnogaeth y prifysgolion i'r prosiect pwysig hwn hefyd.  Y gobaith bellach yw y bydd ymweliad arall yn nes ymlaen eleni i barhau â'r gwaith o sefydlu rhaglen barhaol i sgrinio llygaid pobl â diabetes ar ynys Bermuda. 

Rhagor o wybodaeth am ymchwil i ddiabetes yn Abertawe

 

Rhannu'r stori