Trosolwg
Yr Athro David R Owens yw'r Arweinydd Clinigol ar gyfer Retinopathi mewn Cysylltiad â Diabetes yn y Grŵp Ymchwil Diabetes, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae'n darparu cymorth i'r cwrs MSc mewn Ymarfer Diabetes ac mae'n goruchwylio prosiectau PhD yn yr Uned a'r tu allan iddi. Mae'n arholwr allanol rheolaidd ar gyfer traethodau estynedig amrywiol, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'r Athro Owens yn gweithio'n agos gyda'r Ffederasiwn Diabetes Rhyngwladol i greu deunydd addysgol ar glefyd y llygaid mewn cysylltiad â diabetes ac i lunio rhaglenni ar gyfer cynadleddau ar gymhlethdodau diabetes yn y dyfodol. Mae wedi ymwneud â chefnogi datblygiad gwasanaethau diabetes mewn nifer o wledydd datblygol ers llawer o flynyddoedd.