Awyrlun o grŵp o adeiladau wedi'u hamgylchynu gan barcdir gyda'r môr yn y cefndir

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing o fri i gydnabod ei hymchwil a'i haddysgu ym maes AI a gwyddor data.

Mae Abertawe yn un o 29 o sefydliadau sydd wedi cael eu derbyn yn ddiweddar gan Sefydliad Alan Turing, gan gynyddu cyfanswm y prifysgolion yn y rhwydwaith i 65. 

Mae Rhwydwaith Prifysgolion Turing yn cynnig cyfle i brifysgolion y DU ymgysylltu a chydweithio â'r Sefydliad a'i rwydweithiau ehangach yn y byd academaidd, byd diwydiant a'r sector cyhoeddus. 

Bydd hefyd yn cysylltu prifysgolion ar draws yr ecosystem gwyddor data ac AI, yn darparu mynediad at weithgarwch rhwydwaith pwrpasol ac yn annog cydweithio wrth i gyfleoedd godi. 

Meddai'r Athro Helen Griffiths, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn o ymuno â'r fenter wych hon; mae Rhwydwaith Prifysgolion Turing yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer ymgysylltu a chydweithio mwy ar lefel genedlaethol, ac rydym yn falch bod ein harbenigedd unigryw ym maes modelu, data ac AI wedi'i gydnabod." 

Lansiwyd y rhwydwaith gyntaf fel peilot ym mis Ebrill 2023 gyda 36 o brifysgolion a oedd yn bartneriaid Turing ac yn ddeiliaid Dyfarniad Datblygu Rhwydwaith Turing. Yna lansiwyd galwad agored am aelodau newydd ddechrau'r haf yn 2023. 

Mae'n elfen allweddol o strategaeth Sefydliad Alan Turing ac yn cefnogi aelodau i gyflawni ei dri nod uchelgeisiol: hyrwyddo ymchwil o safon fyd-eang a'i chymhwyso i heriau cenedlaethol a byd-eang, meithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol, a hyrwyddo sgwrs gyhoeddus wybodus. 

Meddai Dr Jean Innes, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Alan Turing: "Rydym yn falch iawn o groesawu ein haelodau newydd i'r rhwydwaith. Gobeithiwn y byddant yn elwa o fod yn rhan o'n grŵp gwyddor data ac AI ac yn dod o hyd i gyfleoedd ar gyfer cydweithrediadau newydd ac ystyrlon ar draws y tirlun gwyddor data ac AI."

Darganfod mwy am ein hymchwil - Dyfodol Digidol

 

Rhannu'r stori