Golygfa ar draws aber wedi'i amgylchynu gan gorsydd gyda wal a rheiliau

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i sut gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i fynd i'r afael â llifogydd arfordirol newydd sicrhau hwb ariannol mawr.

Bydd academyddion o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gweithio ar y prosiect rhyngddisgyblaethol 36 mis, sydd wedi derbyn grant gwerth £307,445 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. 

Bydd llifogydd arfordirol ac aberol yn effeithio ar o leiaf 15 y cant o'r boblogaeth fyd-eang ac yn costio oddeutu £50 biliwn bob blwyddyn erbyn 2050. Mae rhai cymunedau ac isadeiledd arfordirol yn debygol o fod yn anhyfyw oni bai y cymerir mesurau i'w hamddiffyn rhag llifogydd ac erydu, a hynny ar frys. 

Gan fod yr ymagwedd bresennol at liniaru llifogydd arfordirol sy'n ymwneud ag amddiffynfeydd caled bellach yn fwyfwy anaddas at y diben, cydnabuwyd yn fyd-eang fod yn rhaid rhoi ymagweddau cynaliadwy at reoli risg llifogydd ar waith ar frys. 

Bydd y prosiect hwn, o'r enw Artificial Intelligence-assisted saltmarsh flood mitigation assessment, yn defnyddio technegau deallusrwydd artiffisial i fynd i'r afael â'r angen hwn a helpu i gynllunio a datblygu mesurau cynaliadwy, yn seiliedig ar fyd natur, i liniaru llifogydd arfordirol a all gynnig buddion sylweddol i'r amgylchedd a'r gymdeithas. 

Caiff yr ymchwil ei chyfarwyddo gan yr Athro Harshinie Karunarathna, o'r Adran Peirianneg Sifil, mewn cydweithrediad â Dr Alma Rahat, o'r Adran Gyfrifiadureg, a Dr John Griffin, o Adran y Biowyddorau. 

Meddai'r Athro Karunarathna: “Mae'n bleser gen i gyfarwyddo'r prosiect gwirioneddol ryngddisgyblaethol hwn a ariennir drwy grant ymchwil uchel ei fri gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. 

“Atebion sy'n seiliedig ar fyd natur yw dyfodol amddiffynfeydd arfordirol. Rhaid i ni weithio gyda byd natur, yn hytrach nag yn ei erbyn, wrth ddod o hyd i atebion i liniaru effeithiau peryglon arfordirol yn yr oes hon o newid eithafol yn yr hinsawdd. 

“Mae'n hynod gyffrous gweithio gyda gwyddonwyr data a biowyddonwyr yn y Brifysgol, a rhanddeiliaid y tu allan i'r byd academaidd, i ddod o hyd i ymagweddau arloesol a chynaliadwy at liniaru llifogydd arfordirol.”

 

Rhannu'r stori