Dr John Griffin

Dr John Griffin

Athro Cyswllt, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295311

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 101
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i’n ddarlithydd yn Adran Biowyddorau, Prifysgol Abertawe. Mae fy niddordebau arbenigol yn cynnwys: Bioamrywiaeth, Gweithrediad Ecosystemau, Ecoleg Arfordirol, Ecoleg Adfer

Nod gwaith ymchwil fy ngrŵp yw egluro’r ffordd y mae bioamrywiaeth a rhyngweithio rhywogaethau’n effeithio ar weithrediad ecosystemau. Rydym yn mynd i’r afael â hyn ar draws amrywiaeth o systemau gan gynnwys glannau creigiog, morfeydd heli, riffiau cwrel a hyd yn oed dolydd alpaidd. Mae dulliau empirig yn cynnwys arolygon ar raddfa fawr, arbrofion maes a mesocosm a meta-ddadansoddi.

Mae ein gwaith ymchwil yn archwilio goblygiadau swyddogaethol dwy wahanol echel o ran bioamrywiaeth: amrywiaeth llorweddol a fertigol. Ar hyd echel lorweddol amrywiaeth (h.y. amrywiaeth rhywogaethau sy’n cystadlu â’i gilydd), ein nod yw helpu i ragweld goblygiadau difodiant rhywogaethau, gofyn cwestiynau’n cynnwys: ‘sut mae’r cysylltiadau rhwng amrywiaeth-swyddogaeth yn newid yn ôl graddfa o arbrofion bach i dirweddau?’ ac ‘a yw hynodrwydd swyddogaethol neu esbglygiadol rhywogaethau yn darogan ei bwysigrwydd ar gyfer gweithrediad ecosystemau?’ O ran amrywiaeth fertigol (h.y. y rhyngweithio rhwng rhywogaethau mewn lefelau troffig gwahanol), rydym yn canolbwyntio ar effeithiau rhaeadrol rhyngweithio di-droffig. Mae ein gwaith mewn systemau lluosog yn dangos y gall difodiant ysglyfaethwyr gael effeithiau gwrthreddfol - ond rhagweladwy - o ganlyniad i golli rhyngweithio di-droffig (ymddygiadol) sy’n ddibynnol ar nodweddion.

Mae ein gwaith yn perthyn i’r maes ecoleg bur a chymhwysol. Er mai ein nod yw gwella dealltwriaeth o gymunedau ecolegol, gallwn ragweld y bydd ein gwaith parhaus yn helpu i lenwi dau fwlch pwysig mewn ecoleg gymhwysol: 1) yr angen i ragweld yn fanwl-gywir y ffordd y bydd newidiadau anthropogenig i fioamrywiaeth yn dylanwadu ar wasanaethau ecosystemau; a 2) yr angen i nodi rhyngweithio rhwng rhywogaethau a fydd yn cyflymu’r broses o adfer ecosystemau a hyrwyddo gwydnwch, gan felly wella llwyddiant rhaglenni adfer ecosystemau.