Eilian Richards yn traddodi ei thesis tair munud

Eilian Richards yn traddodi ei thesis tair munud

Mae Eilian Richmond, sy'n astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth fel rhan o'r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig, cyfres o ddigwyddiadau mis o hyd sy'n dangos yr ymchwil a wneir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae 3MT yn herio ymgeiswyr doethurol i draddodi cyflwyniad gafaelgar ar lafar am bwnc eu hymchwil a'i arwyddocâd mewn tair munud yn unig.

Yn ei anerchiad, siaradodd Eilian, sy'n astudio yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, am feithrin dealltwriaeth o naratif y Beibl drwy arosod ail naratif dychanol drosto – ei nofel, Earthbound. Mae ei allu i gyfleu'r cwestiwn allweddol: ‘Sawl un o'r anghysondebau hyn yn y naratif sy'n gallu cael ei briodoli i fet rhwng Duw a Satan, yn unol â Llyfr Job?’ wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Trechodd Eilian 14 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill ar draws tair cyfadran y Brifysgol i ennill y gystadleuaeth.

Mae 3MT, a sefydlwyd gan Brifysgol Queensland yn 2008, yn gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir mewn mwy na 200 o brifysgolion ledled y byd.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o oddeutu 70 o sefydliadau yn y DU sydd bellach yn rhan o rwydwaith 3MT byd-eang, gan annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i hyrwyddo eu hymchwil a'u brwdfrydedd dros eu dewis bwnc i gyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigol. Nod 3MT yw dangos i amrywiaeth o gynulleidfaoedd yr ymchwil ardderchog ac amrywiol a wneir gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, ei pherthnasedd i'r byd rydym yn byw ynddo a'i heffaith ar y byd hwnnw.

Wrth drafod ei lwyddiant yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, meddai Eilian: “Gwnaeth pawb a gymerodd ran yn glodwiw i gyflwyno eu gwaith esoterig mewn ffordd afaelgar i gynulleidfa leyg, ac roedd yr ymchwil i gyd mor drawiadol y mae'n arbennig o bleserus i gael fy nghyfrif yn eu plith. Byddwn i'n argymell y profiad i unrhyw un sydd am feithrin dealltwriaeth well o'i waith ei hun.”

Ychwanegodd yr Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe: “Roedd yn bleser mawr gweld yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig yn mynd rhagddi dros yr wythnosau diwethaf, a hynny'n ymdrech gydlynus ar draws y Brifysgol a'r cyfadrannau. Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn rhan annatod o weithgarwch ymchwil y Brifysgol. Gan eu bod nhw ar fin gorffen fel myfyrwyr, mae'n bwysig dwyn sylw i'w cyflawniadau. Gwnaeth yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig a chystadleuaeth 3MT hynny i'r dim.” 

Bydd Eilian bellach yn mynd rhagddo i rownd gogynderfynol cystadleuaeth 3MT y DU ym mis Gorffennaf a bydd ganddo obaith o gyflwyno yn rownd derfynol ar-lein cystadleuaeth 3MT y DU ym mis Medi, a gynhelir gan Vitae, sy'n flaenllaw'n fyd-eang wrth ddatblygu ymchwilwyr.

Rhannu'r stori