Grŵp o fyfyrwyr yn sefyll o flaen efelychydd hedfan gyda dau ddyn hŷn

IZULU, y tîm buddugol o Abertawe, gyda'r beirniaid Gordon McClymont (chwith) a Dave Southwood.

Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Abertawe yr entrychion i ennill her unigryw â'r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.

Cynhaliwyd cystadleuaeth It Flies eleni am y trydydd tro gan Brifysgol Abertawe ac yn y pen draw codwyd y tlws gan un o'r ddau dîm cartref a gymerodd ran, ar ôl diwrnod llethol gerbron arbenigwyr o fyd diwydiant. 

Mae'r gystadleuaeth, a gynhelir bob blwyddyn yn y DU ac Unol Daleithiau America, yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio awyren gyfan. Yna caiff eu dyluniadau eu profi gan beilot prawf proffesiynol, gan ddefnyddio un o efelychwyr MP521 y Brifysgol, a gyflenwyd gan drefnwyr y gystadleuaeth, Grŵp Efelychu Hediadau Merlin.   

Bu tîm o Abertawe o'r enw IZULU yn cystadlu yn erbyn cyd-fyfyrwyr o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn ogystal â thimau o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Amsterdam a Phrifysgol Manceinion. 

Cyflwynodd Chris Neal, perchennog Grŵp Efelychu Hediadau Merlin, wobr gwerth £500 i'r enillwyr – Abdulqadir Rashid, Anish Pradhan, Thomas Edwards, Akash George, Ashin Anil ac Ed Keeley. 

Meddai Marion Neal, o Merlin: “Roedd hi’n bleser dychwelyd i Brifysgol Abertawe eleni, yn enwedig gan fod ei chyfleusterau efelychu newydd yn golygu mai dyma'r lle perffaith i gynnal cystadleuaeth IT FLIES y DU!  

“Dim ond un tîm a allai ennill yn y pen draw, ond mae pob myfyriwr a gymerodd ran bellach wedi ehangu ei wybodaeth am hedfan. Gan mai dyma ddylunwyr awyrennau ein dyfodol, mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n dysgu gan y peilotiaid prawf – dyma'r myfyrwyr sydd bellach yn dechrau yn y diwydiant awyrofod.” 

Meddai Ben Evans, athro peirianneg awyrofod: “Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydyn ni'n falch iawn o'n perthynas hirdymor â Merlin ac mae'r offer efelychu hediadau mae'r cwmni wedi ei ddarparu bellach yn rhan annatod o'n rhaglenni gradd awyrofod. 

“Roedd hi’n bleser i ni gynnal y gystadleuaeth efelychu hediadau eleni a chroesawu timau yma i ddefnyddio ein hefelychwyr yn y digwyddiad cyffrous iawn, ac roedd yn destun cyffro hyd yn oed yn fwy bod Abertawe wedi ennill am y trydydd tro. Rydyn ni'n falch iawn o ddyfeisgarwch a sgiliau'r tîm. 

“Ond ennill ai peidio, rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhagor o ysbrydoliaeth i'r myfyrwyr a gymerodd ran a'u sbarduno ar eu taith tuag at fod yn beirianwyr awyrofod proffesiynol.” 

Rhagor o wybodaeth am astudio peirianneg awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe

 

 

Rhannu'r stori