Ar y ffordd i Sero Net: mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect MESH i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.

Ar y ffordd i Sero Net:  mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect MESH i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £992,312 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i sefydlu prosiect SWITCH-On Skills i fynd i'r afael â heriau Datgarboneiddio, Gweithgynhyrchu Sero Net, Swyddi Gwyrdd a Digidol sy’n galw am sgiliau aml-lefel.

Trwy ddefnyddio'r cynllun meithrin sgiliau, nod prosiect SWITCH-On Skills fydd mynd i'r afael â'r sgiliau y bydd eu hangen ar y gweithlu yn y dyfodol, er mwyn meithrin gwybodaeth am liniaru argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol a chyflwyno'r technegau gorau sydd ar gael sydd hefyd yn opsiynau cadarnhaol o safbwynt amgylcheddol.

Gall cyfranogwyr gyrchu cyrsiau DPP byr neu rai sy'n cynnig micro-gredydau, a defnyddio'r rhain i ennill cymwysterau neu'r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer eu rôl.

Bydd y prosiect hefyd yn ymgymryd â gwaith allgymorth mewn ysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth i gynorthwyo wrth baratoi'r gweithlu at y dyfodol trwy sicrhau bod gan weithwyr yr wybodaeth a'r sgiliau Sero Net y mae eu hangen arnynt.

Meddai Dr Khalil Khan o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:

“Mae nifer o sefydliadau yn cynnig llu o gymwysterau ond mae angen mabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol sy'n nodi'r angen am sgiliau ar bob lefel ym maes addysg, o'r ysgol i brentisiaethau, i lefel ôl-raddedig. At hynny, mae angen bod yn hyblyg wrth gyflwyno'r cymwysterau hyn, a hynny yn nhermau mynediad corfforol at gyrsiau, yn ogystal â sut y gall unigolion lywio eu ffordd drwy'r lefelau sgiliau.

Mae prosiect SWITCH-On Skills yn defnyddio datblygiadau mewn dysgu cyfeiriedig ar-lein, addysgu wyneb yn wyneb a sesiynau ymarferol a chydweithrediadau â byd diwydiant i fynd i'r afael â hyn.”

Ychwanegodd Simon Brennan o Gyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cydnabod y cyfle i ddatgarboneiddio yn y rhanbarth. Bydd y ffocws ar sgiliau, yn bennaf mewn perthynas â sero net a gweithgynhyrchu, yn cyd-fynd â Chynllun Adfer Economaidd Castell-nedd Port Talbot a'i Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy.

Cydnabyddwn y prif heriau wrth gyflawni datgarboneiddio yn yr ardal. Mae angen i ni gefnogi diwydiannau allweddol a staff drwy sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i greu gweithlu gwydn ac effeithiol sy'n gallu addasu i heriau datgarboneiddio. Bydd cefnogi'r sector gweithgynhyrchu ehangach yn cynnig nifer o gyfleoedd i sicrhau bod byd diwydiant yn deall yr heriau sydd i ddod a'i fod yn gallu cefnogi datblygiad sgiliau ei weithlu.

Mae SWITCH-On Skills yn cefnogi buddsoddiadau strategol eraill yn y fwrdeistref sirol, megis y rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a'n taith i ddatgarboneiddio diwydiannol”.

Gobeithir y bydd prosiect SWITCH-On Skills yn arwain yn y pen draw at greu canolfan ragoriaeth ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth er mwyn uwchsgilio, ailsgilio a meithrin sgiliau newydd mewn ardaloedd blaenoriaeth allweddol yn y rhanbarth, gan sicrhau bod diwydiant yng Nghymru yn wydn, wedi'i baratoi ar gyfer y dyfodol ac yn gallu cystadlu'n fyd-eang gyda chadwyn gyflenwi a gweithlu gwybodus.

Rhannu'r stori