Delwedd graffig yn dangos siâp helics gyda lluniau o wynebau

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod y cyfraniad at wyddor data poblogaethau a wnaed gan y tîm arbenigol yn ei banc data o fri rhyngwladol, sef SAIL.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr data bellach yn gallu cynnal ymchwil gadarn drwy ddefnyddio data cynhwysfawr SAIL am boblogaethau Cymru a'r DU. Mae SAIL (Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw'n Ddiogel) yn rhan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol ac mae'n dod â data o sawl ffynhonnell ynghyd, cyn ei gysylltu a’i ddadansoddi, er mwyn cyflwyno dealltwriaeth o boblogaethau i lywodraethau a llunwyr polisi.

Dyfernir y gwobrau, a gyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1994, bob dwy flynedd ac maent yn cydnabod gwaith rhagorol gan golegau a phrifysgolion yn y DU sy'n dangos rhagoriaeth ac arloesedd ac sy’n darparu budd go iawn i'r byd ehangach.

Ar ôl i'r enillwyr gael eu cyhoeddi'n swyddogol ym Mhalas Sant Iago, caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ffurfiol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn ei llwyddiant yn 2021 pan ddyfarnwyd y wobr i brosiect SPECIFIC, mae'r Brifysgol bellach yn ymuno â grŵp bach iawn o sefydliadau sydd wedi ennill y wobr ddwywaith yn olynol.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, yr anrhydedd cenedlaethol mwyaf i addysg bellach ac addysg uwch yn y DU. Mae'r wobr eleni'n cydnabod cyfraniad rhagorol Banc Data SAIL at faes gwyddor data, ac effaith sylweddol ei waith wrth helpu i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

“Roedd hi'n anrhydedd i'n Prifysgol ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2021. Mae ennill ail wobr eleni – mewn rowndiau cyflwyno olynol – yn gyflawniad prin ac anhygoel, sy'n amlygu budd sylweddol ein hymchwil a'n gweithgarwch arloesi o'r radd flaenaf i'r cyhoedd.”

Yn ystod y 15 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, mae cyflawniadau SAIL yn cynnwys:

  • Cyflawni ymchwil eang iawn i Covid-19 ac ymateb yn gyflym i gyflwyno gwybodaeth a oedd yn seiliedig ar ddata i lywodraethau Cymru a'r DU;
  • Gweithredu fel y system genedlaethol ar gyfer cysylltu data a mynediad at yr holl ddata cyhoeddus yng Nghymru, gan guradu data'n ddiogel o bob sector a mwy na 500 o sefydliadau;
  • Darparu gwasanaethau cysylltu a chronni data ar gyfer llawer o fentrau byd-eang, gan gynnwys data a rennir o fwy na 30 o wledydd i gefnogi menter ICODA (International COVID-19 Data Alliance); ac
  • Atgyfnerthu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi sy'n eu helpu i ddeall y perthnasoedd rhwng y gwasanaethau a ddarperir ganddynt er mwyn gwella bywydau pobl.

Meddai'r Athro David Ford, cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Ers i ni sefydlu Banc Data SAIL fwy na 15 mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi gweithio gyda miloedd o ymchwilwyr a channoedd o brosiectau ymchwil. Fodd bynnag, doedden ni erioed wedi dychmygu y bydden ni'n cael cyfrannu at fynd i'r afael ag argyfwng byd-eang ar raddfa Covid-19. Felly, rydyn ni wrth ein boddau bod ymdrechion aruthrol tîm SAIL a llu o gydweithwyr ymroddedig ar draws y GIG, llywodraethau a'r byd academaidd wedi cael eu cydnabod gan y wobr hon.”

Ychwanegodd yr Athro Ronan Lyons, ei gyd-gyfarwyddwr: “Rwy'n hynod falch bod gwaith tîm gwych SAIL wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr hon. Mae SAIL wir yn fenter gwyddoniaeth ar y cyd sy'n galluogi'r byd academaidd, y GIG, llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac aelodau'r cyhoedd i gydweithredu i astudio llawer o faterion sydd o bwys i boblogaethau yng Nghymru ac yn fyd-eang.”   

 

Rhannu'r stori