Tri dyn a dwy ddynes yn sefyll y tu allan i adeilad

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cwblhau astudiaeth fwyaf y byd o'r cysylltiad rhwng creithiau ar yr wyneb a gorbryder ac iselder.

Canfu'r Athro Iain Whitaker a'i gydweithwyr fod pobl â chreithiau ar yr wyneb yn fwy tebygol o ddioddef o orbryder ac iselder na'r boblogaeth yn ehangach.

Dangosodd yr ymchwil fod rhai ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ba mor aml y mae pobl â chreithiau ar yr wyneb yn profi'r problemau iechyd meddwl cyffredin hyn:

  • Mae gorbryder ac iselder yn fwyaf cyffredin ymhlith pobl â chreithiau sydd wedi deillio o hunan-niweidio, ymosodiad neu anafiadau trawmatig fel llosgiadau.
  • Pobl â chreithiau a ddeilliodd o gyflyrau cynhenid sydd leiaf tebygol o gael eu trin am orbryder ac iselder.
  • Mae menywod, pobl â hanes o iechyd meddwl gwael a phobl ddifreintiedig hefyd yn wynebu risg uwch.

Cafodd yr astudiaeth, a elwir yn AFFECT (Assessing the burden oF Facial scarring and associated mEntal health Conditions to identify patients at greatesT risk), ei hariannu gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae ymchwil fwyaf nodedig astudiaeth AFFECT newydd gael ei chyhoeddi gan BJPsychOpen, cyfnodolyn seiciatreg o fri.

Roedd gwaith dadansoddi'r ymchwilwyr yn seiliedig ar Fanc Data SAIL Prifysgol Abertawe. Gan ddefnyddio data iechyd o Gymru, gwnaethant ganfod 179,079 o bobl â chreithiau ar yr wyneb. Cafodd y cofnodion hyn eu paru yn ôl statws economaidd-gymdeithasol, oedran dioddef y creithiau ar yr wyneb, a rhyw’r bobl hyn â’r un nifer o bobl heb greithiau. 

Cafodd cofnodion meddygon teulu'r parau hyn eu cymharu er mwyn cadarnhau faint o bobl â chreithiau ar yr wyneb a phobl heb greithiau ar yr wyneb a gafodd eu trin am orbryder ac iselder. 

Gallai'r canfyddiadau newid sut mae cleifion â chreithiau ar yr wyneb yn cael eu cefnogi. 

Meddai'r Athro Whitaker, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, Prif Ymchwilydd Astudiaeth AFFECT: “Rwyf wedi bod yn llawfeddyg cosmetig ers 20 mlynedd, ac rwyf wedi gweld nifer mawr o gleifion y bu'n rhaid tynnu canserau oddi ar eu hwyneb, neu sydd wedi cael anafiadau i'r wyneb. Mae pob llawdriniaeth yn gadael craith ond ar hyn o bryd does dim cefnogaeth seicolegol i gleifion. 

“A minnau'n feddyg, mae'n bwysig i mi wybod beth yw goblygiadau trin fy nghleifion, ar ben yr effeithiau corfforol uniongyrchol. Rwyf am wella gwybodaeth a phrofiad fy nghleifion. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn arwain at system fwy cadarn o gefnogi iechyd meddwl cleifion â chreithiau ar yr wyneb.” 

Meddai Simon Weston, Llysgennad Scar Free: “Ers i mi fod yn 20 oed, rwyf wedi gorfod byw gyda fy nghreithiau. Ar y dechrau, achosodd y newid sydyn yn fy mywyd heriau seicolegol difrifol. Yn ogystal â dioddef o PTSD, es i'n isel iawn, gan boeni a fyddwn i erioed yn cael bywyd arferol eto ac a fyddwn i'n gallu cael teulu. Ond fy nheulu a fy ffrindiau oedd fy rhwydwaith cymorth ac roedd cryn dipyn o gryfder a chariad a wnaeth fy ngwthio ymlaen. Ddigwyddodd hi ddim dros nos – roedd yn rhaid ymdopi â newid mawr a dysgu i hoffi fy hun a'r person oeddwn i. Yn y pen draw, gwnes i hynny. 

“Mae gwaith The Scar Free Foundation a'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe'n wych. Bu'n rhaid aros am hyn am amser maith. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn creithio, ac rwyf am i bobl â'r mathau hyn o wahaniaethau gweledol gael eu derbyn yn ein cymdeithas. Mae pobl â chreithiau'n bobl go iawn a'u hunig ddymuniad yw cael eu trin yn gyfartal. 

“Erbyn hyn, dyw'r pethau sarhaus mae pobl yn eu dweud ddim yn effeithio arna i. Rwy'n gyfforddus iawn yn fy nghroen fy hun, ac rwyf am i bobl eraill deimlo'n gyfforddus hefyd. Gobeithio y bydd y camau mae'r tîm yn eu cymryd yn helpu i gyflawni hyn.” 

Ychwanegodd Dr Jaco Nel, Llysgennad Scar Free, sydd wedi goroesi sepsis: “O fy mhrofiad fy hun fel seiciatrydd a rhywun sy'n byw gyda chreithiau, rwy'n gwybod nad oes llawer o gymorth seicolegol wedi'i wreiddio i helpu pobl â chreithiau, yn enwedig ar y dechrau. 

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos pa mor bwysig yw hi i gynnig cymorth seicolegol da i gleifion drwy gydol eu taith. Mae'r salwch neu'r digwyddiad sy'n arwain at graith ar yr wyneb yn aml yn fyrhoedlog, ond bydd ein creithiau gyda ni am byth. Rwy'n gobeithio y bydd astudiaethau fel yr un hon yn sbarduno newid fel y gall pobl â chreithiau fyw heb gywilydd na gorbryder yn y dyfodol.”  

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  “Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth sylweddol i'w wyneb. Bydd deall y cysylltiad rhwng creithiau wyneb ac iechyd meddwl yn ein helpu i ddyfeisio strategaethau i fynd i'r afael ag anghenion pobl. 

“Mae'r rhaglen lawn o ymchwil sy'n digwydd yn Rhaglen Ymchwil, Y Sefydliad Di-Sgar/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Ailadeiladu ac Adfywio Wynebau Sefydliad Scar ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd yn cynnwys prosiect BioFace, sy'n datblygu datblygiad cartilagau wyneb (clustiau a thrwynau) wedi'u hargraffu 3D, ar gyfer pobl a anwyd heb rannau o'r corff neu sy'n byw gyda chreithiau wyneb. Rhan arall o'r rhaglen yw prosiect RESECT sy'n archwilio profiad cleifion ac ailgynllunio gwasanaethau ar gyfer pobl â chanser y croen. 

“Rydyn ni'n falch o'n cydweitho â Sefydliad Scar Free ac yn gyffrous am ddyfodol ymchwil di-graith."

 

 

Rhannu'r stori