Rhywun yn perfformio CPR

Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn ymuno â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i ddangos eu cefnogaeth i Fis y Galon ym mis Chwefror.

Bob blwyddyn, mae oddeutu 2,800 o bobl yn dioddef trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, gyda dim ond un o bob 20 yn goroesi.

Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe, Prifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn dod at ei gilydd i wneud pobl yn fwy ymwybodol o iechyd eu calon a dysgu sgiliau achub bywyd syml. Wrth i’r Elyrch herio Blackpool ar 15 Chwefror, bydd gan staff Prifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru bresenoldeb yn y stondin teulu, yn cyflwyno gwybodaeth ar sut i berfformio CPR trwy RevivR, sef offeryn hyfforddi CPR cyntaf o’i fath y BHF am ddim.

Mae teclyn RevivR yn darparu sesiwn hyfforddi CPR ar-lein 15 munud y gellir ei wneud gartref neu yn y gwaith. Mae RevivR yn dangos pryd a sut i wneud CPR i achub bywyd rhywun - y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw 15 munud, eich ffôn a chlustog gadarn.

Meddai Jez McCluskey, Pennaeth Meddygol Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe: “Mae'r clwb yn falch iawn o weithio gyda Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y galon a CPR.

“Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol y gellir eu rhannu ymhlith y gymuned nid yn unig i gynyddu ymwybyddiaeth, ond hefyd i helpu i achub bywydau.”

Dywedodd Emma Rees, Athro Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn angerddol am wneud gwahaniaeth yn ein cymuned. Mae'n wych bod yn bartner gyda Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon i rannu ein gwybodaeth a'n sgiliau gyda chefnogwyr. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn gael mwy o effaith ar iechyd calon pobl Abertawe a helpu llawer mwy i ddysgu CPR."

Meddai Rhodri Thomas, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn cymryd rhan flaenllaw wrth godi ymwybyddiaeth o iechyd y galon a phwysigrwydd CPR yn eu cymuned. RevivR yw ein hofferyn hyfforddi CPR ar-lein cyntaf o’i fath, sydd wedi’i gynllunio i addysgu’r sgiliau achub bywyd hyn mewn dim ond 15 munud.

“Gall ataliad y galon ddigwydd unrhyw bryd ac unrhyw le. Gall CPR eich helpu i achub bywyd, ac mae RevivR yn ffordd hawdd, gyflym a rhad ac am ddim o ddysgu. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw 15 munud a chlustog gadarn.”

Dysgwch CPR mewn 15 munud gyda RevivR. 

Rhannu'r stori