Rhywun yn tynnu hun-lun.

Dengys ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe fod menywod yn postio hun-luniau sy'n gysylltiedig â strategaethau cyflwyno'ch hunan mewn ffordd fygythiol, sy'n cyd-fynd â lefelau uchel o ymddygiad ymosodol.

Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan yr Athro Phil Reed o Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol a chan academyddion o Brifysgol Strathclyde, wedi'i chyhoeddi yn y Journal of Social Media in Society.

Archwiliodd y tîm hun-luniau a rhai nad oeddent yn hun-luniau a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan 150 o unigolion, gan asesu ar wahân i ba raddau yr oeddent yn mabwysiadu mathau gwahanol o strategaethau cyflwyno'u hunain;  sut mae pobl yn ymddwyn gydag eraill i greu argraff.

Ar gyfartaledd, roedd menywod yn postio pum hun-lun a deg llun nad oeddent yn hun-luniau y mis, o'i gymharu â dau hun-lun a chwe llun nad oeddent yn hun-luniau gan ddynion.  Serch hynny, roedd amrywiaeth fawr o hun-luniau, gyda rhai'n postio mwy na 40 hun-lun y mis.

I fenywod, y rhagfynegydd cryfaf ar gyfer postio hun-luniau oedd i ba raddau yr oeddent yn mabwysiadu strategaethau cyflwyno'u hunain mewn ffordd fygythiol. Po fwyaf roeddent yn tueddu i gyfleu gweithredoedd yn y byd go iawn gyda bwriad i gyfleu personoliaeth bwerus a pheryglus i ysgogi ofn mewn eraill, mwyaf byddent yn postio hun-luniau. Nid oedd yr hun-luniau hyn yn cael eu cyfeirio'n benodol at ddynion neu fenywod, ond at y gymuned ar-lein yn gyffredinol.

Nid oedd dynion yn dangos unrhyw berthynas rhwng cyflwyno'u hunain mewn ffordd fygythiol yn y byd go iawn a phostio hun-luniau, ond roedd eu hawydd i osgoi cosb, hynny yw, i gael eu derbyn, yn darogan rhannu hun-luniau.

Mae'r canfyddiad hwn yn gwrth-ddweud astudiaethau blaenorol a gynhaliwyd mewn sefyllfaoedd byd go iawn, lle nad yw menywod yn dangos cysylltiadau rhwng y nodwedd fygythiol hon a'u hymddygiad mor gryf â dynion.

Meddai'r Athro Phil Reed o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: "Pan fydd y cyfyngiadau cymdeithasol arferol sydd ar waith yn y byd go iawn yn cael eu dileu, gallai hwyluso mynegi'r elfen fygythiol hon ym mhersonoliaeth menywod."

Ychwanegodd yr Athro Reed: "Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu bod angen newid y farn draddodiadol am ymddygiad ymosodol, sy’n rhoi pwyslais ar ddynion.

"Ni fydd yn gwneud y tro meddwl bod ymddygiad ymosodol gan fenywod yn deillio o ryw elfen ffisiolegol wrywaidd yn y menywod hynny neu ei bod hi’n strategaeth baru wedi’i thargedu at fenywod eraill.

"Yn lle hynny, mae ymddygiad digidol yn awgrymu nad yw menywod wedi'u rhaglennu i fod yn oddefol a’u bod yr un mor ymosodol â dynion, ac mewn rhai amgylchiadau, yn fwy fyth - ac nid pan fyddant yn ceisio canfod partner yn unig.”

Mae'r ymchwil hon yn dilyn gwaith blaenorol a wnaed gan y tîm a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Personality and Individual Differences, a wnaeth ganfod hefyd fod cysylltiad cryf rhwng postio hun-luniau gan fenywod a chyflwyno eu hunain mewn ffordd fygythiol.

Datgelodd y data ymhellach, er bod dynion yn gyffredinol yn fwy pendant na menywod yn y byd go iawn, nad oedd gwahaniaeth yn y defnydd o strategaethau cyflwyno'u hunain yn y byd go iawn rhwng y ddau ryw; yn wir, roedd dynion yn tueddu i ddangos lefelau uwch o strategaethau plesio na menywod.

Meddai'r Athro Reed: "Er y nodir bod dynion yn fwy pendant yn y byd go iawn, nid oedd yr ymddygiadau hyn bob amser yn gysylltiedig â'u hymddygiad ar-lein, lle'r oedd menywod yn tueddu i adael i'w natur ymosodol lywio eu hymddygiad yn fwy na dynion. Gall hyn adlewyrchu gweithredu set wahanol o rolau cymdeithasol arferol neu eu habsenoldeb mewn lleoliadau ar-lein.”  

Rhannu'r stori