O'r chwith i'r dde: Jan Delos Santos, Russell Grigg, Debbie Jones, Andy Townsend, Jeremy Miles AS, yr Athro Paul Boyle, yr Athro Elwen Evans CB, Elinor Banks.

O'r chwith i'r dde: Jan Delos Santos, Russell Grigg, Debbie Jones, Andy Townsend, Jeremy Miles AS, yr Athro Paul Boyle, yr Athro Elwen Evans CB, Elinor Banks. 

Mae Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe wedi lansio Canolfan newydd ar gyfer Ymchwil i Ymarfer (CRIP) a fydd yn helpu addysgwyr i wella eu harferion addysgu.

Y Ganolfan fydd y prif gyfrwng ar gyfer cynnal ymchwil addysgol y Brifysgol a'i rhannu a chaiff ei harwain gan Dr Russell Grigg, Uwch-ddarlithydd ar y Rhaglen TAR Gynradd.

Mae gan y Ganolfan bedwar prif nod i gyflawni ei gweledigaeth:

  • Codi ymwybyddiaeth o newyddion a gweithgareddau'r Ganolfan
  • Datblygu adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi ymchwil addysgol.
  • Meithrin gallu ymchwil addysgol.
  • Cryfhau partneriaethau ar gyfer ymchwil cydweithredol ac ymholiad proffesiynol. 

Fel rhan o'r nod cyntaf hwn, bydd y Ganolfan yn rhannu ei harbenigedd ar draws 10 thema graidd: y cwricwlwm, addysgeg - gan gynnwys technolegau digidol, chwarae drwy gydol oes, y blynyddoedd cynnar, cyfranogiad rhieni, lles, addysg â chymorth anifeiliaid, mentora, arweinyddiaeth a hanes addysg.

Un o'r prosiectau cyntaf y mae'r Ganolfan yn bwriadu ei gynnal yw creu cyfres o adnoddau iaith ar gyfer ysgolion cynradd yn Gymraeg, Saesneg, Pwyleg, Ieithoedd Tramor Modern ac Iaith Arwyddion Prydain ar y cyd â Phrifysgol Warsaw.

Bydd y Ganolfan yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion eraill, Llywodraeth Cymru, elusennau, ysgolion ym Mhartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe, awdurdodau lleol a chonsortia. Nod y Ganolfan yw cryfhau'r partneriaethau hyn a datblygu rhwydweithiau ymchwil ar y cyd, o weithio gydag ymchwilwyr ifanc i lywodraeth leol a chenedlaethol.

Dyma Bennaeth y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer, Dr Russell Grigg, yn esbonio: "Mae ymchwil addysgol yn hynod bwysig. Gall helpu addysgwyr i ddeall sut i wella a datblygu addysgu, beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol y mae plant yn dysgu ac effaith ymyriadau. Dyma pam mae'r Ganolfan hefyd yn ceisio datblygu gallu ymchwil addysgol yn y sector a datblygu adnoddau o safon i gefnogi ei hysgolion partner".

Cyfunwyd lansio'r Ganolfan â chynhadledd ymchwil flynyddol TAR a gynhaliwyd ar Gampws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, lle rhoddodd myfyrwyr o’r rhaglenni TAR cynradd ac uwchradd fewnwelediadau i'w gwaith ymchwil eu hunain wrth geisio dod yn ymarferwyr myfyriol sydd wedi’u llywio gan ymchwil mewn ysgolion ledled Cymru.  

Roedd Jeremy Miles, AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn y lansiad: "Roedd hi'n bleser bod yn lansiad Canolfan Ymchwil i Ymarfer Prifysgol Abertawe. Drwy feithrin amgylchedd cydweithredol ar gyfer ymchwil ac arloesi, bydd yn darparu adnoddau amhrisiadwy a mewnwelediadau ar sail tystiolaeth a fydd yn galluogi ein hathrawon i ragori ar lywio meddyliau cenedlaethau'r dyfodol".

Mae'r Athro Andy Townsend, Pennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, wrth ei fodd bod y Ganolfan wedi cael ei sefydlu ar adeg o ddiddordeb o'r newydd mewn ymchwil addysgol a galw am ymarfer ar sail tystiolaeth: "Fel mae’n digwydd, mae lansio’r Ganolfan Ymchwil i Ymarfer yn cyd-daro â'm penodiad yn Bennaeth yr Adran yn ogystal â gweithredu'r Cwricwlwm newydd ac arloesol i Gymru.  Felly mae'n bleser gen i ddechrau ar fy nhaith ym Mhrifysgol Abertawe law yn llaw â chanolfan newydd a fydd yn allweddol i gefnogi Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol Llywodraeth Cymru.  Wrth gyflawni gwaith ymchwil, mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn ymrwymedig i werthoedd craidd y Brifysgol sef bod yn broffesiynol, cydweithredu a gofalu. Bydd y Ganolfan yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'n staff, ysgolion partner ac athrawon dan hyfforddiant i gydweithio ymhellach i wneud gwahaniaeth go iawn i addysg yng Nghymru ac yn wir yn ehangach.

Rhannu'r stori