Tri llun, un yn dangos merched yn edrych ar gamera fideo, un yn dangos adeilad yng nghefn gwlad gyda phaneli solar ar y to ac un gyda grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch ar lawr ystafell

Bydd ffilm sy'n portreadu effeithiau trawsnewidiol adeilad solar mewn pentref yn India, wedi'i datblygu drwy bartneriaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cael ei harddangos yn Arddangosiad o fri yr Haf yr Academi Brydeinig. 

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau eraill yn y DU ac India yn ogystal â phartneriaid diwydiannol a sefydliadau'r trydydd sector.

Am y tro cyntaf, fel rhan o'r digwyddiad am ddim hwn, bydd yr Academi yn gweithio gyda Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes (ICA) ar gyfres o ddangosiadau ffilmiau, gan gynnwys How has a solar building impacted villagers in India? gan Dr Carol Maddock.

Mae'r ffilm yn rhoi cipolwg ar y newidiadau sylfaenol a brofwyd gan y gymuned Khuded yn Maharashtra ar ôl cyflwyno'r adeilad Solar OASIS. Dyma adeilad gweithredol cyntaf India wedi'i ddylunio gan SUNRISE, prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n mynd i'r afael â thlodi ynni byd-eang drwy ddatblygu technolegau solar y genhedlaeth nesaf.

Er bod llwyddiant prosiectau fel hyn fel arfer yn cael ei fesur o safbwynt cyflawniadau technegol neu economaidd, bu'r tîm yn ceisio deall beth oedd y canfyddiad o safbwynt y pentrefwyr a oedd wedi helpu i gyd-greu agweddau ar swyddogaethau'r adeilad yr oeddent nawr yn ei ddefnyddio ac yn gweithio gyda'r cyfarpar newydd.

Gan fanteisio ar gyllid gan yr Academi Brydeinig a Grantiau Ymchwil Bach Leverhulme, mae tîm cyfranogiad cymunedol Solar OASIS wedi gweithio gydag InsightShareSefydliad y Gwyddorau Cymdeithasol Tata i roi i bentrefwyr y gallu i greu eu fideos byrion eu hun yn archwilio effaith yr adeilad o'u safbwynt nhw.

Meddai Dr Maddock, Swyddog Ymchwil mewn Iechyd y Cyhoedd: "Nid ydym yn gwybod a yw newid i ynni adnewyddadwy yn fuddiol yn gyfartal, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n dibynnu ar danwyddau ffosil yn eu bywydau beunyddiol, fel yn India. Rydym yn disgwyl newidiadau mawr, felly mae'n hollbwysig cael cyfranogiad y rhai mae’r datblygiadau hyn yn debygol o effeithio arnynt.

"Defnyddiodd ein hymchwil ddull fideo cyfranogol gan fabwysiadu’r ymagwedd newid mwyaf arwyddocaol gyda phentrefwyr i roi dealltwriaeth gyd-destunol ddyfnach o newidiadau i ynni adnewyddadwy ar ôl cael mynediad i adeilad cymunedol solar.

"Mae creu, gwerthfawrogi a rhannu gwybodaeth o safbwyntiau gwahanol yn hanfodol wrth ddeall pa newidiadau neu weithredoedd a allai fod yn ofynnol wrth newid i ynni adnewyddadwy, ac mae'r pwyntiau sy'n codi yn y fideo hwn eisoes wedi cynnig sawl gwelliant a chynllun ar gyfer y dyfodol."

Yn ogystal â chyfres o ddangosiadau arbennig, bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys rhaglen lawn o sgyrsiau, perfformiadau, trafodaethau panel a gweithdai ar draws disgyblaethau SHAPE (sef y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a'r Celfyddydau ar gyfer Pobl a'r Economi).

Meddai'r Athro Julia Black, Llywydd yr Academi Brydeinig: "Rydym yn llawn cyffro wrth groesawu pobl yn ôl i'r Academi Brydeinig ar gyfer ein Harddangosiad yr Haf, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2018. Heb os, mae rhannu rhai o'r mewnwelediadau a'r darganfyddiadau mwyaf diddorol a deinamig y mae'r disgyblaethau SHAPE yn eu cynnig, yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn.

"Eleni, byddwn yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar draws pynciau a fydd yn apelio at unrhyw un sy'n chwilfrydig am ein byd, am bobl, am gymdeithasau ac am ddiwylliannau, nawr ac yn y dyfodol."

Rhagor o wybodaeth am Arddangosiad yr Haf yr Academi Brydeinig eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn 17 Mehefin

 

 

Rhannu'r stori