Delwedd graffeg yn cynnwys symbolau cemeg organig ac enw'r prosiect

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant ymchwil gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Cornell noddir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol ar gyfer project ymchwil aml-sefydliadol.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith ymchwil, trosi ac addysgu i hyrwyddo gwyddoniaeth a thechnoleg at ddibenion cymdeithasol drwy ddylunio deunyddiau sy'n gynaliadwy ac yn wydn yn gymdeithasol. 

Y prosiect sydd wedi ennill y grant yw Mind over Matter: Socioresilient Materials Design (SMD): A New Paradigm For Addressing Global Challenges in Sustainability (MoMatS)  ac mae'r grant Cyflymydd Cydgyfeiriant gwerth $750,000 yn rhan o Gam 1 y rhaglen, Carfan 2022, Track I: Sustainable Materials for Global Challenges.

Dr Francisco Martin-Martinez, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gemeg, a fydd yn arwain yr ymdrech ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n aelod o'r tîm arweinyddiaeth sefydliadol sy'n cynnwys Sefydliad Technoleg Massachusetts (Yr Adran Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg), Prifysgol Cornell (Ysgol Peirianneg Fecanyddol ac Awyrofod Sibley), Citrine Informatics, Inc, a Station1.

Mae'r prosiect yn cynnwys 14 o sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol ychwanegol sy'n cydweithio ar draws sectorau gan gynnwys y byd academaidd, byd diwydiant, cyfalaf menter, y sector cymdeithasol, llywodraeth a dyngarwch.

Meddai Dr Martin-Martinez: "Mae'r prosiect ymchwil hwn yn ymdrech draws-sector a thrawsddisgyblaethol arloesol sy'n ceisio ailfeddwl, ail-lunio, ail-gyfeirio, a chyflymu ymchwil a datblygiad deunyddiau yn sylfaenol, tuag at ganlyniadau a chynhyrchion sy'n seiliedig ar ddeunyddiau a fydd yn fwy cynaliadwy a gwydn yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

"Bydd cydweithrediad MoMatS yn ymgysylltu ag ymchwilwyr, ysgolheigion ac ymarferwyr blaenllaw sydd ag arbenigedd ar draws meysydd gwahanol, gan gynnwys y gwyddorau, peirianneg, pensaernïaeth a chynllunio trefol, a'r gwyddorau dyneiddiol a chymdeithasol.

"Yn gynyddol, mae isadeiledd a systemau deunyddiau yn wynebu siociau yn yr hinsawdd sydd wedi creu a gwaethygu niwed amgylcheddol a materion anghyfiawnder. Mae dulliau dylunio deunyddiau clasurol yn ogystal â dulliau cylchol, sy'n canolbwyntio ar briodweddau technegol yn unig, ac sydd yn aml ar wahân i achosion gwraidd, yn annigonol i fynd i'r afael â'r heriau hyn."

Nod prosiect ymchwil MoMatS yw creu fframwaith amlddisgyblaethol y genhedlaeth nesaf ar gyfer dylunio deunyddiau drwy integreiddio galluoedd cyfrifiadol, methodolegau dyneiddiol a gwyddorau cymdeithasol trylwyr, ac egwyddorion sydd wedi'u hysbrydoli gan fyd natur.

Dywed y tîm fod gan y prosiect y potensial i hyrwyddo gwaith amddiffyn yr amgylchedd a chadwraeth adnoddau, lles a chydraddoldeb cymdeithasol, ffyniant a pharhad economaidd, gwydnwch isadeiledd, a diogelwch cenedlaethol.

Am y Cyflymydd Cydgyfeiriant NSF

Lansiwyd Cyflymydd Cydgyfeiriant y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yn 2019, ac mae'n adeiladu ar waith ymchwil a darganfod er mwyn cyflymu ymchwil cydgyfeiriant ar sail defnydd, i'w chymhwyso'n ymarferol. Mae'r rhaglen unigryw hon, sy'n cyd-fynd â'r Gyfarwyddiaeth Technoleg, Arloesi a Phartneriaethau, yn ariannu carfan o dimau i weithio'n rhyngweithiol i ddatrys heriau cymdeithasol sylweddol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar filoedd o bobl. 

Fel rhan o'r garfan a lansiwyd yn ddiweddar yn 2022, nodau Cam I: Deunyddiau Cynaliadwy ar gyfer Heriau Byd-eang yw cydgyfeirio datblygiadau mewn gwyddor deunyddiau sylfaenol â dulliau dylunio a gweithgynhyrchu deunyddiau â'r nod o uno eu hystyriaethau defnydd ar y diwedd a chylch bywyd llawn ar gyfer deunyddiau a chynhyrchion sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang.

 

Rhannu'r stori