Dr Francisco Martin-Martinez

Dr Francisco Martin-Martinez

Uwch-ddarlithydd, Chemistry
431
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunais â'r Adran Gemeg a oedd newydd agor ym mis Medi 2019. Cyn dod i Abertawe, roeddwn yn Wyddonydd Ymchwil ac yn Gymrawd Addysgu yn y Massachusetts Institute of Technology (MIT) – ac rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â’r sefydliad fel Cyswllt Ymchwil. Cyn ymuno â’r MIT, roeddwn yn gydymaith ôl-ddoethurol yn y Vrije Universiteit Brussel (Gwlad Belg) ac yn ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Hamburg (yr Almaen). Cefais fy MS mewn Peirianneg Gemegol a fy PhD mewn Cemeg Ddamcaniaethol a Chyfrifiannol o Brifysgol Granada (Sbaen), fy ngwlad enedigol. Rwyf hefyd yn gyd-hyfforddwr yn Station1, cwmni di-elw addysgol wedi'i leoli yn Lawrence (Massachusetts) sy'n meithrin arloesedd cymdeithasol. Y tu allan i'r byd academaidd, rwy'n aelod o fwrdd ymgynghorol Sweetwater Energy, cwmni bioburo integredig, ac yn gyn-lywydd Cymdeithas Gwyddonwyr Sbaen yn yr UDA (ECUSA). Rwy'n angerddol dros arloesi, pobl ac addysg.

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth Dwysedd Ffwythianolion (DFT)
  • Dynameg Foleciwlaidd (MD)
  • Cemeg Damcaniaethol a Chyfrifiannol
  • Modelu moleciwlaidd
  • Adweithedd cemegol
  • Prosesu biomas
  • Hylifiad hydrothermol (HTL)
  • Nanoddefnyddiau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n gweithio'n agos gyda myfyrwyr fel athro a mentor, ac rwy'n ymwneud yn fawr â gweithgareddau addysgol. Ym Mhrifysgol Abertawe rwy'n addysgu Cemeg Cyfrifiannol a Damcaniaethol; Cemeg Cwantwm; Modelu aml-raddfa o ddefnyddiau bioysbrydoledig, a modiwl newydd ar arloesi ac entrepreneuriaeth.

Ymchwil Cydweithrediadau