Person yn defnyddio dyfais i gysylltu gwifrau.

Mae Oriel Science yn falch o gyhoeddi lansiad ei harddangosfa ddiweddaraf, IMAGING sy'n addo rhoi golwg unigryw a rhyngweithiol ar sut mae ymchwilwyr uchel eu bri o Brifysgol Abertawe'n delweddu, yn cofnodi ac yn dehongli'r byd y tu mewn i ni ac o'n cwmpas.

O ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf, gall ymwelwyr archwilio dros 40 o arddangosion diddorol newydd yn arddangosfa Oriel Science yng nghanol dinas Abertawe o 10am i 4pm dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae gan yr arddangosfa newydd ystod o uchafbwyntiau anarferol, o ddychmygu maint anferth y siarc megalodon, i ryngweithio ag arteffactau o'r llong ryfel hanesyddol, y Mary Rose, cipolwg anhygoel ar sêr a galaethau pell, model o bwmp calon a llawer mwy.

Mae cyflwyno IMAGING yn dangos pa mor llwyddiannus oedd lleoliad dros dro blaenorol Oriel Science, yn ogystal â'r ddwy arddangosfa ddiweddaraf yn ei lleoliad cyfredol ar Stryd y Castell Symud a Mudiant ac Ymateb Prifysgol Abertawe i Covid-19.

Meddai'r Athro Chris Allton, Cyfarwyddwr Oriel Science, "Rydym yn hynod gyffrous i agor ein harddangosfa newydd sbon, IMAGING. Bu dwy arddangosfa flaenorol ein lleoliad yn llwyddiannau ysgubol ac rydym yn siŵr y bydd IMAGING hyd yn oed yn fwy trawiadol. Mae'n defnyddio'r ymchwil anhygoel hon wedi'i hymgorffori mewn arddangosion hwyl a rhyngweithiol, i ysbrydoli'r genhedlaeth iau er mwyn iddynt allu dod yn beirianwyr, yn feddygon, yn dechnolegwyr ac arloeswyr y dyfodol."

Meddai'r Athro David Smith, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe: “Fel ymchwilwyr, rydym yn herio'n hunain i weld pethau mewn ffyrdd gwahanol. O ronynnau is-atomig sylfaenol sy'n rhy fach i'w gweld mewn ffyrdd confensiynol i alaethau y mae eu maint bron y tu hwnt i'n deall ni: rydym am rannu ein brwdfrydedd am archwilio. Bydd arddangosfa newydd Oriel Science, IMAGING, yn rhoi cipolwg i chi ar beth o'r ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe. Gobeithio y byddwch chi wedi'ch ysbrydoli ac yn chwilfrydig fel rydyn ni!"

Gan nad oes rhaid talu i gael mynediad at y lleoliad, mae Oriel Science yn cynnig cyfle gwych i ymwelwyr o bob cefndir i archwilio ymchwil gyfareddol Prifysgol Abertawe sydd o'r radd flaenaf.

Ers 2016, mae lleoliadau Oriel Science wedi croesawu 25,000 o ymwelwyr a chyflwyno gweithdai i 2,500 o fyfyrwyr ysgolion ac mae ei digwyddiadau cymunedol wedi cynnwys 130,000 o bobl.

Mae Oriel Science yn ymroddedig i feithrin chwilfrydedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, y Dyniaethau ac arloesi, a chyda chynifer o arddangosion rhyngweithiol yn yr arddangosfa newydd, IMAGING, ei nod yw parhau â'i thraddodiad o ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oedran.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Oriel Science.

Rhannu'r stori