Gwyddonydd gwrywaidd mewn labordy yn llenwi tiwbiau prawf

Gallai ymchwil gan wyddonwyr o Abertawe sy'n archwilio siwgrau yn y gwaed arwain at brofion mwy effeithiol a diagnosisau cynharach o ran canser y prostad – a fyddai'n achub bywydau dynion di-rif.

Mae Prostate Cancer UK wedi ariannu prosiect newydd o bwys ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o Ddyfarniadau Arloesi Ymchwil yr elusen, sef buddsoddiad gwerth £3m ar draws saith sefydliad yn y DU yn y datblygiadau diweddaraf i drechu canser y prostad.

Mae Dr Jason Webber, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi derbyn cyllid gwerth mwy na £400,000 ar gyfer ymchwil a fydd yn ceisio creu math newydd o brawf gwaed anfewnwthiol ar gyfer canser y prostad, er mwyn helpu i ganfod canser y prostad yn gynharach yn ogystal ag osgoi biopsïau diangen a allai fod yn niweidiol.

Bydd y prosiect yn ymchwilio i siwgrau penodol a geir yn llif gwaed dynion â chanser y prostad a allai gael eu defnyddio mewn prawf i gadarnhau risg dyn o ddatblygu'r clefyd a'r tebygolrwydd y bydd yn ymledu.

Meddai: “Nid yw'r siwgrau gwaed rydyn ni'n canolbwyntio arnyn nhw yr un peth â'r siwgr neu'r glwcos rydyn ni'n eu llyncu mewn bwydydd a diodydd. Mae'r siwgrau hyn i'w canfod ar wyneb fesiglau allgellol, sef pecynnau bach sy'n cael eu rhyddhau i lif y gwaed gan gelloedd canser y prostad, gan dwyllo a chyrchu celloedd iach ac ymledu canser o gwmpas y corff.”

Pan fydd canser y prostad yn ymledu y tu hwnt i'r prostad, nid oes modd i'r claf wella. Bydd profion mwy arloesol ac effeithlon yn arwain at ddiagnosisau cynharach a mwy penodol, gan roi cyfle gwell i ddynion oroesi canser y prostad.

Yn gyffredinol eleni, bydd Prostate Cancer UK yn buddsoddi mwy na £7.8m mewn ymchwil sy'n hyrwyddo diagnosisau cynharach a thriniaethau gwell.

Meddai Dr Matthew Hobbs, cyfarwyddwr ymchwil yr elusen: “Bydd rhoi diagnosisau cynharach i ddynion a datblygu triniaethau mwy clyfar a phenodol yn rhoi'r cyfle gorau posib i ni i atal canser y prostad rhag lladd dynion a gwella bywydau'r rhai hynny sy'n byw gyda'r clefyd. Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £3m yn y cylch hwn o ymchwil arloesol i ganser y prostad ledled y DU.”

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynion wrth i un o bob wyth ohonynt gael y clefyd yn y DU, gan gynyddu i un o bob pedwar yn achos dynion du. Mae dyn yn marw o ganser y prostad bob 45 munud.

Mae Cymru'n un o'r ardaloedd sy'n dioddef fwyaf yn y DU o ran cyfeirio dynion sy'n dioddef o ganser y prostad, a rhoi diagnosis iddynt, yn hwyr. Mae un o bob pum dyn â'r clefyd yn cael diagnosis yn rhy hwyr i'w wella. Yn Llundain, y ffigwr cyfatebol yw un o bob wyth.

Yn anffodus, nid oes dim symptomau cynnar o ganser y prostad fel arfer, felly anogir dynion i fod yn ymwybodol o'r risg iddynt, sy'n uwch i'r rhai hynny sy'n hŷn na 50 oed. Mae'r risg hyd yn oed yn uwch i ddynion du a dynion â hanes o'r clefyd yn y teulu a dylent siarad â'u meddyg teulu o 45 oed.

Gall dynion wirio'r risg iddynt mewn 30 eiliad yn unig ar-lein drwy ddefnyddio teclyn gwirio risg ar-lein Prostate Cancer UK. Gallwch hefyd gyflwyno rhodd er mwyn helpu i ariannu  ymchwil Prostate Cancer UK

Ein Hymchwil - Arloesi ym maes iechyd

 

Rhannu'r stori