Cyn-fyfyriwr Technocamps ac Uwch-ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe'n cyflwyno ei haraith yn Arena Abertawe.

Casey Hopkins: Cyn-fyfyriwr Technocamps ac Uwch-ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe'n cyflwyno ei haraith yn Arena Abertawe.

Cynhaliwyd digwyddiad ITWales, wedi’i drefnu gan Technocamps, i ddathlu menywod ym meysydd STEM ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Arena Abertawe.

Noddwyd y digwyddiad blynyddol hwn gan Admiral a'i thema eleni oedd 20 mlynedd o Technocamps. Y nod oedd  tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i fenywod ym meysydd STEM, bu'n llwyfan i rannu profiadau ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr benywaidd llawn ysbrydoliaeth sy'n gweithio yn y diwydiannau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Amlygodd y noson y gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru i annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, a daeth gwesteion o bob cwr o'r wlad i fod yn bresennol.

Rhaglen allgymorth digidol yw Technocamps sydd â changen ym mhob prifysgol yng Nghymru a’i phencadlys ym Mhrifysgol Abertawe. Ei nod craidd yw cynyddu diddordeb pobl ifanc mewn pynciau STEM drwy ddarparu gweithdai am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â'u hathrawon, er mwyn eu cynorthwyo i addysgu'r cwricwlwm Cyfrifiadureg. Ar ben hyn, mae Technocamps yn cynnal clybiau a seminarau ar gyfer merched yn unig drwy raglen GiST Cymru.

Meddai Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller: "Gwnaethon ni drefnu'r digwyddiad hwn am y tro cyntaf yn 2000 er mwyn tynnu sylw at y nifer isel iawn o ferched sy'n astudio cyfrifiadura, a'r bwlch enfawr rhwng y rhywiau yn y diwydiannau cyfrifiadura. Erbyn hyn, mae ein gweithgarwch yn cynnwys 6,000 o bobl ifanc bob blwyddyn, hanner ohonynt yn ferched, gan chwalu stereoteipiau a chael effaith gadarnhaol ar eu teimladau am y pwnc. Mae'n bleser mawr gennym ddathlu ein cyflawniadau ein hunain, yn ogystal â rhai ein partneriaid, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod."

Denodd digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni gynulleidfa o dros 250, gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredu, myfyrwyr a chynrychiolwyr sefydliadau sydd am wella eu hamrywiaeth. Roedd y dathliad yn gyfle i rannu gwybodaeth a phrofiadau menywod ysgogiadol sy'n gweithio yn y diwydiannau STEM.

Cyflwynydd y noson oedd seren fwyaf disglair Abertawe, Kev Johns MBE, ac roedd y prif siaradwyr yn cynnwys y seryddwr Dr Jen Millard, Clare Johnson o Women in Cyber Wales a Casey Hopkins, gynt o Technocamps, sydd bellach yn uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ei chyflwyniad yn y digwyddiad, myfyriodd Casey am yr effaith gadarnhaol a gafodd Technocamps ar ei gyrfa, ar ôl iddi newid ei meddwl am fod yn athrawes Ffrangeg, i astudio Cyfrifiadureg a chwblhau modiwl addysgu yn Technocamps. "Hoffwn i ddiolch i bob aelod o dîm Technocamps am fy nghefnogi ar bob cam o’m taith gyrfa ac am fy annog bob amser i ymgeisio am y swydd honno, i wneud yn dda yn y cwrs hwnnw a chyflawni mwy."

Rhannu'r stori