Yr Athro Alan Llwyd yn cael ei gadeirio

Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Yn un o’n prifeirdd mwyaf amlwg ers cenedlaethau, llwyddodd Alan Llwyd i ennill y ‘dwbl’, sef y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn - a hynny dwywaith - yn 1973 ac 1976.

Alan Llwyd, sy’n byw yn Nhreforys, Abertawe, yw’r bardd cyntaf ers llacio’r rheol ‘ennill dwywaith yn unig’ i ennill y Gadair am y trydydd tro.

Cyflwynwyd y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Llif.  Y beirniaid oedd Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth.

Wrth draddodi ar ran y beirniaid, dywedodd Karen Owen: “Yr oedd hi'n glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth. Yn bersonol, fe dyfodd y gwaith hwn arnaf efo pob darlleniad. Er mai stori gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ein cyfnod ni sydd yma, sef gadael bro cyn dychwelyd degawdau'n ddiweddarach yn llawn hiraeth euog.

“Y bardd hwn, yn fwy na neb arall, a gafodd y weledigaeth gliriaf ar gyfer ei destun. Dyma’r bardd hefyd a lwyddodd orau i droi’r weledigaeth honno yn farddoniaeth ddealladwy, ddarllenadwy sy’n rhoi mwynhad. Mae strwythur ei awdl yn syml: gŵr cymharol hen yn dychwelyd i fro’i febyd. Mae llanw’r môr a’r holl ddelweddau cysylltiedig yn rhoi’r cyfle iddo wedyn fyfyrio am ei linach a’i deulu, am olyniaeth, am yr hyn a fu a’r hyn a fydd.”

Roedd gwraig, plant ac wyrion Alan Llwyd yn bresennol yn ystod y seremoni, a dywedodd y prifardd bod y profiad o gael ei gadeirio o flaen ei deulu, a hynny ym mro ei febyd, yn “brofiad gwefreiddiol”.

Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau yn 1948. Bu’n byw ym mhentref Llan Ffestiniog ym Meirionnydd hyd at 1953, ac o’i bump oed ymlaen fe’i magwyd ar fferm yn Llŷn. Yn Llŷn y treuliodd weddill ei blentyndod yn ogystal â’i lencyndod. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog hyd at 1967, pryd yr aeth i’r Brifysgol ym Mangor i astudio Cymraeg.

Graddiodd yn y Gymraeg yn 1970, ac wedi hynny bu’n gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn y Bala am ddwy flynedd, cyn symud i Abertawe yn 1976 i weithio fel golygydd i Wasg Christopher Davies. Rhwng 1980 a 1982 bu’n gweithio i’r Cydbwyllgor Addysg yng Nghaerdydd, ac o 1982 ymlaen, bu’n gweithio’n llawn-amser i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, sef Cymdeithas Barddas, y gymdeithas a sefydlwyd ganddo ef ei hun yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Bu’n gweithio i Barddas am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn hybu barddoniaeth, ac yn golygu cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Gymdeithas. Cyhoeddodd dros 300 o lyfrau yn ystod ei gyfnodau fel cyhoeddwr a golygydd i wahanol sefydliadau. Alan Llwyd, ar y cyd â’r diweddar Penri Jones, a sefydlodd Llanw Llŷn, papur bro Pen Llŷn.

Fel bardd a llenor, mae wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, gan gynnwys tri chasgliad cyflawn o gerddi. Enillodd gategori Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2020, a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Yn 2018, enillodd Dlws Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad arbennig i’r byd cyhoeddi. Y mae wedi ennill dros 50 o wobrau llenyddol hyd yn hyn. Yn 1993, enillodd wobr BAFTA Cymru am y Sgript Ffilm Orau yn Gymraeg, sef sgript y ffilm Hedd Wyn.

Cyhoeddwyd ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Cyfnos, ym mis Chwefror eleni.

Rhannu'r stori