Pen ac ysgwyddau menyw ac ap ar ffôn clyfar

Mae ap newydd wedi cael ei lansio i geisio dathlu ac amlygu gwaith Gwen John, yr artist o Gymru.

+Archive: Gwen John yw'r ail ap a grëwyd gan Dr Ana-Maria Herman o Brifysgol Abertawe mewn cyfres o'r enw +Archive sy'n cynnwys artistiaid benywaidd nad ydynt wedi cael yr un clod â'u cyfoedion gwrywaidd. 

Meddai Dr Herman, Uwch-ddarlithydd Dylunio Amlgyfrwng a Chynhyrchu Diwydiannau Creadigol yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: “Prif nod y gyfres yw hyrwyddo gwaith artistiaid benywaidd sydd wedi cael eu tangynrychioli'n hanesyddol yn y byd celf yn gyffredinol.” 

At ddibenion yr ap, a lansiwyd i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, daeth Dr Herman â thîm creadigol ynghyd i amlygu gwaith Gwen John (1876-1939), a anwyd yn Sir Benfro. 

Mae'n cynnwys 37 o luniau o waith celf Gwen, yn ogystal â dau ffotograff sy'n dangos agweddau personol ar ei bywyd. Wedi'i guradu gan Steph Roberts, gweithiwr llawrydd yng Nghymru, mae'r ap yn archwilio bywyd a gwaith Gwen drwy wyth ystafell. Mae pob ystafell yn taflu goleuni ar ei brwydrau, ei thechnegau a'i chyflawniadau fel artist.

Mae cyhoeddi'r ap hwn yn dilyn prosiect cyntaf Dr Herman yn 2020, sef yr ap +Archive: Dorothy Mead, a roddodd olwg fywgraffyddol ar fywyd a gwaith Dorothy Mead (1928-1975), artist o ganol yr ugeinfed ganrif.  

Roedd yr ap am ddim hwn yn cynnwys 17 o baentiadau olew ac acrylig Mead ac un darlun siarcol ganddi, ac roedd yn cynnig nodwedd a roddodd gyfle i ddefnyddwyr i gymryd cip agosach ar bob darn o waith celf. Roedd y darnau a gafodd eu harddangos yn rhan o’r casgliad A David Bomberg Legacy– The Sarah Rose Collection. Cedwir y casgliad mewn archif storio ym Mhrifysgol London South Bank a chafodd ei guradu gan Theresa Kneppers. 

Ychwanegodd Dr Herman: “Roedd Dorothy Mead a Gwen John yn artistiaid medrus ond cawson nhw eu diystyru’n hanesyddol o'u cymharu â'u cyfoedion gwrywaidd. Rhoddwyd mwy o sylw i David Bomberg, un o gyfoedion Dorothy Mead, yn aml a cheir arddangosfeydd pwysig yn ei enw o hyd. Mae Augustus, brawd Gwen John, yn dal yn fwy adnabyddus na hi yn y byd celf. 

“Mae'r apiau hyn yn ymateb i'r diffyg cydbwysedd hwn ac yn dwyn sylw i faterion hanesyddol cynrychiolaeth a chyfraniadau hirsefydlog menywod yn y byd celf.”

Mae'r ddau ap am ddim ac maent ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store.

Ap +Archif: Gwen John 

Ap +Archif: Dorothy Mead

 

 

Rhannu'r stori