Ergydion pen ac ysgwydd o ddau ddyn

Bydd dau academydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y sgyrsiau arbennig diweddaraf mewn cyfres sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.

Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer digwyddiadau yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt a fydd yn cynnwys Dr Matt Wall, arbenigwr mewn ymgyrchoedd etholiadol ac Athro Cysylltiol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, a Tom Crick, Athro Addysg a Pholisi Digidol. 

Cynhelir sesiwn ryngweithiol Dr Wall o'r enw Digital Democracy – Can a website help voters to make a more informed decision? ddydd Mawrth 27 Mehefin. Bydd yn cyflwyno i gyfranogwyr ffenomen fyd-eang gwefannau cynghori pleidleiswyr, sy'n galluogi pleidleiswyr i weld i ba raddau y mae eu barn a'u dewisiadau'n cyd-fynd â'r pleidiau a'r ymgeiswyr amrywiol sy'n cystadlu am bleidleisiau.

Mae Dr Wall wedi helpu i greu a dadansoddi dwsinau o wefannau cynghori pleidleiswyr mewn gwledydd amrywiol o Ganada i Dwrci, yn ogystal â Chymru a'r DU, a bydd yn archwilio'r penderfyniadau sydd yn aml yn gudd a ddefnyddir i’w datblygu, a'u heffaith ar ddefnyddwyr y gwefannau. 

Yn Cwricwlwm i Gymru 2022: Transforming Science and Technology Education in Wales, a gynhelir ddydd Mawrth, 19 Medi, bydd yr Athro Crick yn myfyrio ar ei gyfraniad at ddiwygio'r cwricwlwm ac addysg ar lefel systemig yng Nghymru dros y degawd diwethaf, gan ganolbwyntio'n benodol ar newidiadau i addysg STEM a sgiliau digidol, yn ogystal â gwerthuso rhai o'r heriau (a'r cyfleoedd) y bydd y system addysg yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd y ddwy sgwrs yn dechrau am 11.30am ac mae tocynnau ar gael drwy dudalen ddigwyddiadau'r Wyeside 

Byddant yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus blaenorol yn y ganolfan yng nghwmni'r Athro Louisa Huxtable-Thomas, yr Athro Kirsti Bohata a Dr Annie Tubadji.

 

Rhannu'r stori