Cymdeithas Ddawns Prifysgol Abertawe'n ymarfer yn Fusion.

Mae myfyrwyr o Gymdeithas Ddawns y Brifysgol eisoes yn gwneud defnydd da o'r lle sydd newydd gael ei ailwampio.

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi bod Fusion, ei lleoliad poblogaidd, yn cael ei ailagor. Dyma un o'r lleoliadau cyntaf yn y DU a drawsnewidiwyd mewn modd ecogyfeillgar fel rhan o fenter newydd gan Santander.

Mae'r lle, a fydd bellach yn cael ei weithredu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe fel man perfformio i fyfyrwyr, wedi cael ei ailaddurno â phaent “strydoedd gwyrddach” y banc ei hun.

Wedi'i ddatblygu ar y cyd â'r arbenigwr paentiau ecolegol Graphenstone UK, mae'r paent yn amsugno CO2 yn ystod y 30 niwrnod cyntaf ar ôl iddo gael ei ddodi wrth iddo sychu, gan wrthbwyso allyriadau gweithgynhyrchu a dosbarthu'n rhannol.

Roedd y broses ailwampio ecogyfeillgar hefyd yn cynnwys gosod bylbiau golau sy'n arbed ynni, rhimynnau drafft ac adlewyrchwyr rheiddiaduron.

Mae'r gwaith adnewyddu'n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol ac arloesedd gwyrdd, sy'n bwysicach nag erioed. Dangoswyd hyn gan ymchwil ddiweddar gan Santander UK, a ganfu fod 70% o Brydeinwyr sy'n berchen ar gartrefi'n cael anawsterau mawr o ran gwneud gwelliannau ecogyfeillgar1.

Er mwyn dangos pa mor hawdd y gall fod, mae Santander wedi mynd allan i ardaloedd lle ceir ymwybyddiaeth isel iawn o ôl-osod, megis Abertawe2, i wneud gwaith uwchraddio ecogyfeillgar ar amrywiaeth o adeiladau cymunedol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.

Ar yr effaith y bydd y lle newydd hwn yn ei chael ar fyfyrwyr, meddai Ronnie Kowalska, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae Fusion yn well nag erioed ar ôl cael ei adnewyddu i fod yn lle perfformio ecogyfeillgar â llwyfan, goleuadau, y cyfan!

“Yn ogystal â darparu lle gwych i'n myfyrwyr, mae'r trawsnewidiad hwn hefyd yn ategu ein hymrwymiad i'n Cynllun Gweithredu Cynaliadwy.

“Gan ddefnyddio cyflenwadau cynaliadwy, rydyn ni wedi lleihau effaith y gwaith adnewyddu ar yr amgylchedd ac wedi sicrhau bod mesurau gwrthbwyso carbon ar waith ar gyfer ein digwyddiadau. Mae rheswm da pam rydyn ni wedi cyflawni Safon Ragorol yng Ngwobrau Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am dair blynedd yn olynol!”

Mae'r prosiect gwych hwn yn dangos sut gall gweithredoedd bach arwain at newid sylweddol, ac mae'r Brifysgol a Santander yn gobeithio y bydd yn grymuso sefydliadau, cymunedau ac unigolion i wneud gwahaniaeth tebyg drwy eu heffaith ar yr amgylchedd, un cam ar y tro.

Meddai Brad Fordham, Pennaeth Morgeisi Santander UK: “Er bod perchnogion cartrefi'n deall bod angen gwneud newidiadau i'w heiddo, mae'n amlwg bod y sgwrs am ôl-osod a'r dasg o'u blaenau wedi teimlo'n ormod iddyn nhw wybod sut gallan nhw gymryd rhan.

“Gan fod perchnogion cartrefi'n fwyfwy awyddus i ddeall effeithlonrwydd ynni eu heiddo a gweithredu yn ei gylch, rydyn ni am annog, addysgu ac ysbrydoli'r genedl i ystyried gwelliannau ecogyfeillgar bach fel eu cam cyntaf tuag at wneud gwahaniaeth i'r effaith y mae eu cartref yn ei chael ar yr amgylchedd. A bydd arbed arian yn y tymor hir yn fonws ychwanegol.”

Rhagor o wybodaeth am Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.

1. Cafodd yr ymchwil ei chomisiynu gan Santander a'i chynnal gan 3GEM, gan arolygu 2,000 o berchnogion cartrefi yn y DU dros 18 oed rhwng 28 Gorffennaf a 2 Awst.

2. Dyma'r deg dinas leiaf ymwybodol o ôl-osod:

  • Abertawe (48%)
  • Reading (45%)
  • Bryste (41%)
  • Lerpwl (40%)
  • Glasgow (39%)
  • Southampton (39%)
  • Brighton (38%)
  • Norwich (37%)
  • Caeredin (37%)
  • Leeds (37%)

Rhannu'r stori