Dyn yn sefyll mewn stordy yn edrych ar arch Eifftaidd bren.

Yr arch sy'n dyddio yn ôl 2,800 o flynyddoedd sydd wedi dod i Abertawe fel rhan o gasgliad Harrogate.

Mae llu o henebion Eifftaidd wedi cyrraedd Abertawe cyn cael eu harddangos i'r cyhoedd a chael eu hastudio gan arbenigwyr o'r Brifysgol am y tro cyntaf.

Bydd y Ganolfan Eifftaidd arobryn ar Gampws Parc Singleton yn gartref i gasgliad o fwy na 700 o eitemau Eifftaidd ar fenthyg o Amgueddfeydd Harrogate am y tair blynedd nesaf. 

Mae'r casgliad yn cynnwys arch o'r Trydydd Cyfnod Canol (oddeutu 1000-700 Cyn Crist), meini coffa, casgliad mawr o grochenwaith, amwledau a shabtis, yn ogystal â mwgwd Anubis adnabyddus, yr unig un o'i fath yn y byd. 

Daeth y benthyciad ar ôl i Sam Powell, gwirfoddolwr yn y Ganolfan Eifftaidd a chyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, ymweld â Harrogate fel rhan o ymchwil ei doethuriaeth ar ffigurau pren beddau. Wrth drafod casgliad y Ganolfan Eifftaidd, ei hymagwedd at ddysgu sy'n seiliedig ar wrthrychau a'i chatalog ar-lein, gwelodd y curaduron yn Harrogate gyfle i arbenigwyr yn Abertawe ymchwilio i'w casgliad. 

Dywedodd Ken Griffin, curadur y Ganolfan Eifftaidd, fod y prosiect – Rediscovering Egypt – yn cynnig cyfle delfrydol i'r casgliad ddod yn fwy adnabyddus i ymchwilwyr. 

Meddai Dr Griffin: “Mae'r benthyciad o Harrogate yn hwb mawr ac mae'n adlewyrchu statws Prifysgol Abertawe fel sefydliad ymchwil Eifftolegol o'r radd flaenaf. Bydd cael y casgliad yma'n ein galluogi i adfywio arddangosfeydd y Ganolfan Eifftaidd, gan hefyd sicrhau bod y gwrthrychau ar gael i ymchwilwyr o bedwar ban byd. 

“Ac, wrth i'r Ganolfan Eifftaidd ddathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed yn ystod yr un flwyddyn, mae'n deilwng bod y benthyciad hwn yn digwydd nawr.”

Mae pedwar Eifftolegydd ymhlith staff Prifysgol Abertawe, ac mae dau ohonynt yn y Ganolfan Eifftaidd. Dim ond llond llaw o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig Eifftoleg, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, ac mae casgliad yr amgueddfa'n chwarae rôl annatod yn y gweithgarwch dysgu ac addysgu. 

Ychwanegodd Christian Knoblauch, darlithydd Diwylliant Materol Eifftaidd: “Mae'r benthyciad hwn yn ychwanegiad hynod bwysig at ein darpariaeth a'n hyfforddiant o ran Eifftoleg a bydd yn atgyfnerthu statws unigryw Abertawe wrth wraidd Eifftoleg yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyfleoedd newydd i'n myfyrwyr gael y math o addysgu sy'n seiliedig ar wrthrychau rydyn ni’n ei hyrwyddo yma yn Abertawe. 

“Mae'n arbennig o gyffrous gan fod llawer o'r casgliad heb ei astudio'n systematig eto, felly bydd yn creu cyfleoedd am gydweithrediadau newydd a fydd yn arwain at ymchwil wreiddiol. 

“Mae'n anrhydedd ac yn fraint derbyn y benthyciad hwn ac mae'n enghraifft ardderchog o gydweithrediad y Brifysgol ag amgueddfeydd rhanbarthol i gynyddu hygyrchedd casgliadau lleol ac ymwybyddiaeth ohonyn nhw.” 

Meddai May Catt, Rheolwr Ymwelwyr a Gwasanaethau Diwylliannol yn Amgueddfeydd Harrogate: “Dyma gyfle gwych i ni allu dysgu gwybodaeth bwysig am y casgliad a'i darddiad. Rydyn ni'n edrych ymlaen at allu rhannu hyn ag ymwelwyr o bob oed, yn ddigidol a thrwy arddangosfeydd ac arddangosiadau newydd.

“Rydyn ni'n arbennig o falch o gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn eleni, sef 70fed pen-blwydd Amgueddfa'r Royal Pump Room yn Harrogate.” 

Yn ystod ei amser yn Abertawe, bydd casgliad Harrogate yn cael ei arddangos drwy dair arddangosfa dros dro yn y Ganolfan Eifftaidd. Yn ogystal, bydd yn cael ei gynnal ar blatfform ar-lein, yn debyg i blatfform y Ganolfan Eifftaidd, fel y bydd ar gael i gynulleidfaoedd ledled y byd. 

Darllenwch fwy am y casgliad ym mlog diweddaraf Ken Griffin

 

Rhannu'r stori