Llun o Nick Gliddon, Cyfarwyddwr Busnes Vodafone, ar y llwyfan yn y digwyddiad gyda'r Ysgrifennydd Hillary Clinton, y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac Andrea Dona, Cyfarwyddwr Rhwydwaith a Datblygu Vodafone.

Gwnaed y cyhoeddiad am y prosiect yn y digwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. Llun o Nick Gliddon, Cyfarwyddwr Busnes Vodafone, ar y llwyfan yn y digwyddiad gyda'r Ysgrifennydd Hillary Clinton, y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac Andrea Dona, Cyfarwyddwr Rhwydwaith a Datblygu Vodafone.  

Bydd Prifysgol Abertawe'n datblygu'r amgylchedd ymchwil ac arloesi cyntaf yn y byd sy'n defnyddio isadeiledd 5G i wella iechyd a lles y boblogaeth, wrth i gyllid gwerth £2.58m gael ei ddyfarnu i brosiect a fydd yn creu “labordy byw” yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

Bydd y “labordy byw” hwn yn helpu i arloesi dyfeisiau digidol gwreiddiol, ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon, drwy ddatblygu synwyryddion a dyfeisiau newydd a all wella ansawdd bywyd pobl, monitro lles corfforol a meddyliol, gwella perfformiad a lleihau'r baich ar y GIG.

Disgwylir hefyd i'r prosiect ddenu byd diwydiant, buddsoddiad a swyddi i'r rhanbarth drwy'r cyfle i rannu lleoliad ag isadeiledd clinigol, cyfleusterau chwaraeon a lles ac arbenigedd academaidd.

Wedi'i chefnogi gan gyllid grant gwerth mwy nag £1.5 m gan Raglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe,  bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Vodafone i ddarparu gwely profi 5G a fydd yn rhychwantu dau gampws y Brifysgol, ysbytai Singleton a Threforys, a rhannau o'r ddinas. 

Meddai'r Athro Keith Lloyd, sy'n arwain y prosiect:

“Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gael y cyfle i ddatblygu'r gwely profi arloesi unigryw hwn. Rydyn ni'n ddiolchgar i Raglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe am ein galluogi i ddarparu adnodd arwyddocaol i'r rhanbarth a Chymru. Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr y cymorth y mae ein partner technoleg, Vodafone, yn ei gyfrannu at y prosiect ac i Gyngor Abertawe a'n partneriaid yn y GIG.

“Ein huchelgais yw y bydd yr amgylchedd ymchwil ac arloesi rydyn ni'n ei greu yn darparu buddion go iawn i'r gymuned leol, yn ogystal â'r GIG a byd chwaraeon.” 

Mae Vodafone hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i fynd i'r afael ag allgáu digidol yn yr ardal drwy ddarparu 3,000 o gardiau SIM i'w dosbarthu gan y Brifysgol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn yr ardal leol. Yn ogystal, bydd Vodafone yn archwilio rhagor o gyfleoedd i'r rhwydwaith 5G yn y rhanbarth, mewn meysydd megis datgarboneiddio ac ynni gwyrdd.  

Meddai Nick Gliddon, Cyfarwyddwr Busnes Vodafone:

“Mae uchelgais Prifysgol Abertawe a'i gallu i gefnogi arloesi bob amser yn creu argraff arnon ni, ac rydyn ni wrth ein boddau y bydd yn datblygu ‘labordy byw’ sy'n manteisio ar bŵer 5G. Mae'r labordy'n cynnig y cyfle i arbrofi â thechnolegau'r genhedlaeth nesaf a dod â syniadau'n fyw a allai drawsnewid y ffordd rydyn ni'n masnachu ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ym maes gofal iechyd.

“Mae gan Vodafone berthynas hirsefydlog â'r rhanbarth sy'n seiliedig ar werthoedd cyffredin a gweledigaeth i greu cymdeithas ddigidol gynhwysol, gynaliadwy. Mae'n bwysig bod pawb yn elwa o gysylltedd gwell ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i archwilio opsiynau gydag Abertawe i helpu'r Brifysgol i wireddu ei huchelgeisiau digidol a chyflwyno buddion go iawn i'r gymuned leol a byd diwydiant.”

Mae'r prosiect arloesi 5G wedi cael ei ddatblygu gan brosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n adeiladu ar gryfderau Prifysgol Abertawe yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Banc Data SAIL mewn partneriaeth ag ecosystem ranbarthol y GIG.

Un o amcanion allweddol prosiect Campysau yw arwain y broses o ddatblygu diwydiant technoleg chwaraeon o bwys byd-eang ac adeiladu ar y gwaith i arloesi technoleg iechyd a thechnoleg feddygol yn y rhanbarth.

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe:

“Rydyn ni wrth ein boddau'n ariannu prosiect a fydd yn trawsnewid y mentrau arloesol rydyn ni’n gyfarwydd â nhw ym meysydd iechyd, lles a gwyddor chwaraeon. Yn ogystal â chryfhau darpariaethau gofal iechyd y sector cyhoeddus i'n cymuned leol, bydd yn gaffaeliad gwerthfawr i Gymru gyfan. 

“Dyma adeg gyffrous i dechnoleg ddigidol ac rydyn ni'n falch o fod wrth wraidd y datblygiadau hynny. Bydd y cyfleuster hwn yn elwa o gysylltedd digidol o'r radd flaenaf, felly rwy'n hyderus y bydd y cyfleoedd sy'n deillio o hyn yn sicrhau lle blaenllaw i'r ddinas yn y diwydiant.

“Rydyn ni'n ymrwymedig i droi Abertawe'n ddinas glyfar sy'n rhan o ranbarth gwirioneddol ddigidol ac mae'r buddsoddiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at wireddu'r nod hwnnw.”

Rhannu'r stori