Logos Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe

Mae'n bleser gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe gyhoeddi estyniad i'w bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe am sawl blwyddyn arall.

Drwy'r cytundeb, a fydd yn para tan o leiaf haf 2026, bydd y Brifysgol yn parhau i noddi Eisteddle'r Gorllewin yn Stadiwm Swansea.com, â hawliau hysbysebu a phrofiad atodol.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth o fuddion strategol eraill, wrth i'r clwb a'r Brifysgol barhau i weithio ar sawl prosiect ar y cyd, gan fanteisio ar arbenigedd ei gilydd i ysgogi arloesedd a chynnydd er mwyn creu etifeddiaeth gadarnhaol barhaol, i'r ddau sefydliad, ac i ddinas a chymuned Abertawe.

“Rydyn ni wrth ein boddau i estyn ein partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, a bydd ein perthynas yn parhau am sawl tymor arall,” meddai Pennaeth Masnachol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Richard Morris.

“Mae'r Brifysgol yn parhau i addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ac mae'n bleser i ni gydweithredu â hi ar draws amrywiaeth eang o brosiectau er budd i'r ddwy ochr.

“Mae Dinas Abertawe'n deall pwysigrwydd addysg a gwerth bod mewn partneriaeth ag un o gyflogwyr mwyaf y ddinas, un rydyn ni'n rhannu nifer o werthoedd ac amcanion ag ef.”

Ychwanegodd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Mae'n bleser i ni estyn y bartneriaeth hon â Dinas Abertawe, gan adeiladu ar ein perthynas lwyddiannus â'r clwb ers nifer o flynyddoedd.

“Mae ein partneriaeth werthfawr yn hybu ansawdd profiad y myfyrwyr, yn ogystal â chyfrannu at iechyd a lles cyffredinol ein cymuned leol drwy ein hymdrechion ymchwil cydweithredol.

“Hoffen ni ddiolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe am barhau i'n cefnogi a dymuno pob lwc i'r Elyrch yn ystod tymor 2023-24.” 

Rhannu'r stori