Dr Alexander Langlands mewn llun pen ac ysgwyddau yn gwisgo crys gwyn â streipiau tenau glas a het wellt gyda band brown o'i chwmpas.

Dr Alexander Langlands.

Mae Prifysgol Abertawe yn un o bum sefydliad addysg uwch ledled y DU i dderbyn dyfarniad gan raglen Cymunedau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gynnal Cynllun Peilot Ymarferydd Arloesi Cymunedol (CIP), ar gyfer prosiect a fydd yn archwilio ffyrdd o adfywio safleoedd treftadaeth yn y rhanbarth a fydd o fudd i gymunedau nawr ac yn y dyfodol.

Bydd y dyfarniad Cynllun Peilot CIP yn cefnogi ymarferwyr arloesi cymunedol i weithio'n gydweithredol gyda phartneriaid ar draws sectorau i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd a rennir mae eu cymunedau lleol yn eu hwynebu. Mae'r pum thema ymchwil yn mynd i'r afael â phileri allweddol agenda ffyniant bro Llywodraeth y DU: addysg a sgiliau, iechyd a lles, yr amgylchedd a'r hinsawdd, a dinasyddiaeth sifil a balchder bro.

Dr Alexander Langlands yw derbynnydd y dyfarniad yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol am brosiect o'r enw Treftadaeth mewn Perygl: Cymunedau Creadigol ar gyfer Lleoedd Pwerus Cynaliadwy yn Ne-iCymru  Ddiwydiannol.

Bydd Dr Langlands yn defnyddio'r dyfarniad i adeiladu ar waith Canolfan Hyfforddiant Treftadaeth ac Ymchwil (CHART) y Brifysgol sy'n hyrwyddo gweithgareddau ymchwil, hyfforddiant ac ymgysylltu â myfyrwyr, ysgolheigion ac amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol.

Mae CHART yn amlygu sut mae treftadaeth – adeiladau, tirweddau a henebion –  yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol ac mae'r ganolfan yn archwilio ffyrdd o adfywio'r safleoedd hyn mewn ffyrdd sy'n fuddiol i'r gymuned gyfan. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio'n benodol ar sut y gall cymunedau fod yn asiantiaid gweithredol yn yr agenda creu lleoedd, gweithio'n greadigol gyda gwirfoddolwyr, partïon y trydydd sector a chyrff llywodraethol, i chwilio am ffyrdd o greu mannau cyhoeddus ystyrlon a chanfod atebion cynaliadwy sy'n gwella'r gymuned leol.

Meddai Dr Langlands:

"Mae ymgysylltu â'r gymuned wrth wraidd creu lleoedd yn llwyddiannus ac mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle rhagorol i CHART archwilio sut y gall adeiladau hanesyddol ac asedau treftadaeth chwarae rôl ganolog mewn cymeriad a ddiffinnir gan gymuned, ar gyfer lles, ymdeimlad o le a balchder sifil."

Bydd pob CIP yn creu astudiaeth achos am ei brosiect, gan gynnig dealltwriaeth i’r partneriaethau, y prosesau a’r polisïau sy'n llywio neu sy'n cael eu llywio gan y cymunedau lleol maent yn gweithio gyda nhw. Byddant hefyd yn gweithio gyda chynhyrchydd podlediad i greu podlediad sy'n adlewyrchu lleisiau’r bobl sy'n rhan o'u gwaith ymchwil a datblygu cydweithredol. Bydd y gwersi o'r cynllun peilot yn llywio cyfres o bapurau polisi ar ddiwylliant, cymunedau a ffyniant bro gan y rhaglen yn 2025.

Mae Cadeirydd Gweithredol yr AHRC, Christopher Smith, yn glir am ymrwymiad yr AHRC i amrywio ymchwil a datblygu cydweithredol:

“Dylai pawb ymhobman elwa o'r cyfle i ymgymryd ag ymchwil a datblygu, a chael y cyfle i wneud hyn, drwy greadigrwydd a diwylliant ar lefel leol, ni waeth beth fo'r lleoliad, y modd neu'r cefndir. Rhaid i'r celfyddydau a'r dyniaethau barhau i arloesi o ran dulliau cyllido, dulliau cael a chyfnewid gwybodaeth, a chynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn newid bywydau pobl."

Manylodd Cyfarwyddwr Rhaglen Cymunedau Creadigol yr AHRC, yr Athro Katy Shaw, ar werth y Peilot CIP:

“Mae'r peilot CIP yn fuddsoddiad sylweddol gan yr AHRC sy'n cydnabod y dystiolaeth a ddarparwyd gan ein hadroddiad sy'n dangos sut mae cyd-greu a chydweithio yn allweddol i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf sy'n wynebu ein hecosystem ymchwil heddiw. Drwy adeiladu modelau mwy cynhwysol o arloesi, a thrwy agor drysau i ymchwil i fwy o bobl ac mewn mwy o leoedd, gallwn amrywio pwy sy'n gwneud yr ymchwil, pwy sy'n elwa o'i chanfyddiadau a dangos sut gall cyd-greu fod yn gatalydd ar gyfer ein cymunedau creadigol ledled y DU."

Mae pob un o'r pum CIP wedi derbyn dyfarniad gwerth £58,000 gan yr AHRC i gynnal Peilot CIP. Sicrhawyd y cyllid gan raglen Cymunedau Creadigol yr AHRC ym Mhrifysgol Northumbria yn Newcastle, gan sicrhau £470,000 ychwanegol o fuddsoddiad, ar ben y dyfarniad gwerth £1.3 miliwn, i ddatblygu gwybodaeth newydd am y gymuned a gweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau ym maes ymchwil a datblygu.

Rhagor o wybodaeth am y Peilot CIP.

Rhannu'r stori