GOD’S CHILDREN ARE LITTLE BROKEN THINGS

Mae Arinze Ifeakandu, awdur o Nigeria, wedi ennill un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei lyfr cyntaf gwefreiddiol, God’s Children Are Little Broken Things, casgliad nodedig o ffuglen fer, y mae ei naw stori yn mudlosgi ag unigrwydd a chariad, ac yn darlunio goblygiadau bod yn hoyw yn Nigeria heddiw.

Mae God’s Children Are Little Broken Things – a enillodd Wobr Republic of Consciousness 2022 – yn ‘hyfryd ... yn llawn craffter, doethineb ac ysbryd’ yn ôl Sarah Waters, ac yn ‘tramgwyddo'n dawel fach’ yn ôl Damon Galgut, gan sefydlu Ifeakandu, 28 oed, fel llais newydd pwysig ym maes ffuglen lenyddol.

Cyflwynwyd y wobr uchel ei bri gwerth £20,000 i Ifeakandu am God’s Children Are Little Broken Things (Orion, Weidenfeld & Nicolson) mewn seremoni yn Abertawe nos Iau 11 Mai, cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ddydd Sul 14 Mai, gyda mis Tachwedd 2023 yn nodi 70 mlynedd ers i'r bardd o Gymru farw.

Meddai Di Speirs, Cadeirydd y Beirniaid: “Roedden ni'n unfrydol wrth ganmol ac edmygu'r casgliad gwefreiddiol hwn o naw stori. Mae aeddfedrwydd llyfr cyntaf Arinze Ifeakandu yn disgleirio, mae'r ysgrifennu'n feiddgar, yn wreiddiol ac yn heriol, ond mae'n barod bob amser i oedi a galluogi cymeriadau a sefyllfaoedd i ddatblygu a newid, fel bod y straeon hirach bron yn nofelau ynddyn nhw eu hunain. Ac yntau'n fyfyrdod lliwgar ar fywyd a chariad cwiar yn Nigeria – y cyfyngiadau, y peryglon a'r dyngarwch – dyma gasgliad roedden ni am ei wasgu yn nwylo llawer o ddarllenwyr ledled y byd. Yn y diwedd roedden ni’n awchu i wybod beth bydd Arinze Ifeakandu yn ei ysgrifennu nesaf.”

Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau ac mae'n dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.

Roedd y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2023 yn cynnwys: Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books), Seven Steeples gan Sara Baume (Tramp Press), I’m a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books/Granta), Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing), a Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire (Chatto & Windus, Vintage).

Mae Arinze Ifeakandu yn ymuno â rhestr glodfawr o lenorion sydd wedi ennill y wobr uchel ei bri hon, gan gynnwys Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne, Kayo Chingonyi, Fiona McFarlane a Max Porter.

YNGLŶN AG ENILLYDD GWOBR DYLAN THOMAS PRIFYSGOL ABERTAWE 2023

God's Children Are Little Broken Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld & Nicolson)

Yn y llyfr cyntaf nodedig hwn gan un o lenorion ifanc mwyaf addawol Nigeria, mae cariad yn gwrthdaro â chymdeithas sy'n newid. Mae dyn yn ymweld eto â champws y brifysgol lle collodd ei gariad cyntaf, yn ymwybodol bellach o'r hyn nad oedd yn gallu ei ddeall ar y pryd. Mae merch yn dychwelyd adref i Lagos ar ôl marwolaeth ei thad, lle mae'n rhaid iddi wynebu ei pherthynas – yn y gorffennol ac yn y dyfodol – â'i bartner hirdymor. Mae cerddor ifanc yn dod yn enwog ond yn wynebu'r risg o golli ei hun a'r dyn sy'n ei garu. Mae cenedlaethau'n gwrthdaro, mae teuluoedd yn chwalu ac yn dod yn ôl at ei gilydd, mae ieithoedd a diwylliannau yn cydblethu ac mae cariadon yn canfod eu ffyrdd i'r dyfodol; o blentyndod drwy oedolaeth; ar gampysau prifysgol, yng nghanol dinasoedd ac mewn cymdogaethau lle mae clychau eglwys yn cymysgu â'r alwad foreol i weddïo. Mae'r naw stori hyn am agosrwydd rhwng dynion cwiar yn mudlosgi â chyfrinachau, ecstasi, unigrwydd a chariad wrth iddynt ddarlunio goblygiadau bod yn hoyw yn Nigeria heddiw.

Ganwyd Arinze Ifeakandu yn Kano, Nigeria. Mae wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr AKO Caine ac ennill cymrodoriaeth A Public Space, yn ogystal â graddio o Weithdy Llenorion Iowa. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn A Public SpaceOne Story a Guernica. God's Children Are Little Broken Things yw ei lyfr cyntaf.

YNGLŶN Â PHANEL BEIRNIADU GWOBR DYLAN THOMAS PRIFYSGOL ABERTAWE 2023

Di Speirs yw Golygydd Llyfrau BBC Audio. Cynhyrchodd y rhaglen Book of the Week gyntaf a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ac mae wedi cyfarwyddo Book at Bedtime, dramateiddiadau a straeon byrion ugeiniau o weithiau. Hi yw Golygydd y tîm llyfrau yn Llundain bellach ac mae'n gyfrifol am ddarlleniadau a llyfrau llafar y BBC, Open Book a Bookclub ar Radio 4, yn ogystal â World Book Club a World Book Cafe ar y gwasanaeth byd-eang. Mae wedi hyrwyddo pŵer aruthrol y stori fer ers amser maith ac mae wedi bod yn rhan annatod o Wobr Stori Fer Genedlaethol y BBC ers iddi ddechrau yn 2005, gan fod yn feirniad sy’n dychwelyd ar y panel. Mae hefyd yn gyfrifol am Wobr Llenorion Ifanc y BBC. Mae wedi golygu tri chasgliad o straeon byrion i'r BBC. A hithau'n aelod er anrhydedd o'r RSL, mae'n feirniad llenyddol rheolaidd ac mae wedi bod yn un o enwebwyr Menter Mentoriaid a Noddedigion yn y Celfyddydau (Llenyddiaeth) Rolex ddwywaith. Mae'n aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Llenyddiaeth Caeredin a Bwrdd Cynghori Sefydliad Dyfodol Cymdeithasol Prifysgol Caerhirfryn.

Mae Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a'r cyfryngau BBC Wales sydd wedi ysgrifennu dros 40 o lyfrau. Mae'r rhain yn cynnwys The Story of Wales, y darlledwyd cyfres deledu flaenllaw i gyd-fynd ag ef, llyfr teithio, sef An Island Called Smith, ac Y Storïwr, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn. Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea. Mae Jon wrthi'n ysgrifennu nofel Gymraeg hanesyddol am y fforiwr pegynnol Edgar Evans, casgliad o ysgrifau am fynyddoedd, yn ogystal â chyfrol am Raymond Chester, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, a gyhoeddir yn 2024. Mae'n byw yng Nghaerdydd.

Mae Maggie Shipstead yn awdur sydd wedi cyrraedd rhestr llyfrau poblogaidd The New York Times. Mae wedi ysgrifennu tair nofel a chasgliad o straeon byrion. Cyrhaeddodd un o'i nofelau, Great Circle, restr fer Gwobr Booker a'r Women’s Prize for Fiction. Graddiodd o Harvard a Gweithdy Llenorion Iowa ac mae wedi ennill cymrodoriaeth Wallace Stegner yn Stanford a chymrodoriaeth gan y National Endowment for the Arts, yn ogystal â Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe a Gwobr Llyfrau’r Los Angeles Times am ffuglen gyntaf. Mae'n byw yn Los Angeles.

Cyrhaeddodd casgliad cyntaf Rachel Long, My Darling from the Lions (Picador 2020/Tin House 2021), restr fer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Ffolio Rathbones, Gwobr Jhalak a Gwobr Llenor Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times. Cafodd yr argraffiad o My Darling from the Lions yn yr Unol Daleithiau ei adolygu gan The New York Times, a'i enwi gan TIME yn un o'r 100 llyfr roedd yn rhaid eu darllen yn 2021.

Prajwal Parajuly, y mae ei fam yn hanu o Nepal ac y mae ei dad o dras Nepalaidd-Indiaidd, yw awdur The Gurkha’s Daughter: Stories, ynghyd â nofel o'r enw Land Where I Flee. Mae ei waith wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe a Gwobr Mogford yn y DU, Gwobr Èmile Guimet a'r Wobr am Nofel Gyntaf yn Ffrainc, yn ogystal â bod ar restr hir The Story Prize yn yr Unol Daleithiau. Mae'n byw ym Mharis ac yn addysgu yn Sciences Po.

Rhannu'r stori