Mam a'i phlentyn yn defnyddio iPad

Mae ymchwilwyr prifysgol yn chwilio am gyfranogwyr i gwblhau arolwg ar-lein a fydd yn cynorthwyo gyda'r astudiaeth fanylaf hyd yn hyn o'r ffordd y mae cysylltiad beunyddiol babanod a phlant ifanc iawn â thechnolegau digidol yn dylanwadu ar sut maent yn siarad ac yn rhyngweithio ag eraill.

Mae Toddlers, Tech and Talk, a arweinir gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion, yn brosiect dwy flynedd sy'n ymwneud ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerhirfryn, Prifysgol y Frenhines Belfast a Phrifysgol Strathclyde.

Mae data'n dangos bod gweithgarwch digidol ac ar-lein plant rhwng 3 a 15 oed yn cynyddu bob blwyddyn, ond mae’r wybodaeth yn gymharol brin ynghylch sut mae'r rhai ieuengaf yn defnyddio technoleg.

Fel rhan o brosiect Toddlers, Tech and Talk, mae'r tîm ymchwil yn chwilio am rieni a gwarcheidwaid cyfreithiol plant hyd at 3 oed sy'n byw yn y DU i gwblhau arolwg dienw ar-lein, a fydd yn cymryd oddeutu 15-20 munud. Er mwyn cyrraedd amrywiaeth eang o gymunedau sy'n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol y DU, cynigir yr arolwg mewn 12 iaith wahanol, gan gynnwys y Gymraeg.

Bydd canfyddiadau prosiect Toddlers, Tech and Talk yn galluogi teuluoedd a llunwyr polisi i ddeall yn well sut mae plant hyd at 3 oed yn datblygu llefaredd a llythrennedd cynnar wrth iddynt ddefnyddio cyfryngau digidol, a sut gall teuluoedd eu helpu i ddysgu a chefnogi eu lles. Bydd y canlyniadau hefyd yn nodi sut mae rhaniadau cymdeithasol ledled pedair cenedl y DU yn llywio profiadau digidol plant.

Bydd adnoddau'n cael eu creu ar gyfer rhieni ac athrawon, a bydd papurau briffio polisi a thystiolaeth ysgrifenedig yn cael eu llunio ar gyfer llywodraethau cenedlaethol, datganoledig a lleol ynghylch dysgu, diogelwch a lles plant ifanc iawn mewn cartrefi â chysylltedd digidol.

Meddai'r Athro Janet Goodall o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe: “O adeg geni, mae gan bron pob plentyn yn y DU ôl troed digidol, ac mae cyfryngau digidol yn dechrau dylanwadu ar sut maen nhw’n byw ac yn dysgu. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu corff cadarn o dystiolaeth am y ffordd y mae plant hyd at 3 oed yn dysgu ieithoedd a llythrennedd a byddwn ni'n defnyddio ffyrdd newydd o ymchwilio i'r cartref ac yn gweithio'n sensitif gyda phlant a theuluoedd mewn cymunedau amrywiol.

“Rydyn ni'n gwybod bod plant a gofalwyr yn dymuno'r gorau i'w plant ond, wrth i'r byd hwn newid yn gyflym, gall fod yn anodd iawn gwybod beth yw'r ‘gorau’ neu beth gall y gorau fod. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall sut mae teuluoedd â phlant ifanc yn defnyddio technoleg ddigidol ac yn rhyngweithio â hi, ac yn rhoi dealltwriaeth well i ni o le technoleg ym mywydau teuluoedd.”

Wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), bydd prosiect Toddlers, Tech and Talk yn llywio dealltwriaeth ymarferol a chysyniadol o'r amgylchedd dysgu cartref cyfoes, gan ddatblygu adnoddau a nodi meysydd i ymchwilio iddynt yn y dyfodol.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Rhannu'r stori