Crwsibl Cymru a logos Prifysgol Abertawe uwchben llun o'r awyr o gampws y brifysgol

Mae deg ymchwilydd o Brifysgol Abertawe – traean o'r garfan eleni – wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2023, rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Bob blwyddyn, dewisir 30 ymchwilydd eithriadol yng Nghymru i gyfranogi mewn cyfres o weithdai preswyl – neu labordai sgiliau – sy'n eu galluogi i elwa o weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill. 

Mae'r gweithdai hefyd yn helpu'r cyfranogwyr i archwilio sut gall eu hymchwil gael mwy o effaith yn ogystal â sut i feithrin gyrfaoedd ymchwil ryngwladol yng Nghymru. 

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: “Rydyn ni'n falch iawn o'n cymuned ymchwil yma yn Abertawe, ac mae'n hyfryd gweld cynrychiolaeth gref iawn o Abertawe yn rhaglen Crwsibl Cymru eleni. 

“Mae cynnwys ein hymchwilwyr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymchwil ryngddisgyblaethol, gydweithredol, ac yn amlygu ehangder a dyfnder ein harbenigedd ymchwil. 

“Bydd cyfranogi yn rhaglen Crwsibl Cymru'n rhoi cyfle unigryw iddyn nhw i gyd i ddatblygu eu doniau a mireinio eu sgiliau, gan wella eu cyfleoedd ymchwil – rhywbeth a fydd o fudd mawr wrth i ni fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang.” 

Dyma'r ymchwilwyr sydd wedi'u dewis:

Mae Crwsibl Cymru yn fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Rhannu'r stori