Dr Lisa Smithstead

Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm, Media

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Lisa yn Uwch-ddarlithydd Astudiaethau Ffilm yn Adran Y Cyfryngau a Chyfathrebu. Mae hi eisoes wedi darlithio ar Sinema Prydeinig ac Americanaidd ym Mhrifysgol Caerwysg ac Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol East Anglia. Ymunodd Lisa ag Astudiaethau Ffilm Abertawe yn 2022.

Cafodd ei monograff cyntaf o'r enw Off to the Pictures: Cinemagoing, Women’s Writing and Movie Culture in Interwar Britain ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caeredin yn 2016. Mae'r astudiaeth yn archwilio ffugiannau cyfryngol menywod dros y tri degawd cyntaf o ddiwylliant ffilm y DU, gan gynnig dealltwriaeth newydd o ddiwylliannau sinema a grëwyd gan fenywod, a'u dylanwad ar fywydau bob dydd menywod trwy ymchwiliad gwreiddiol o straeon byrion, llenyddiaeth ganol-ael a modernaidd, beirniadaeth dabloid, a chyfoeth o effemera. Cafodd ei hail fonograff, Reframing Vivien Leigh, ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2021. Yn y llyfr, archwiliwyd archifau Leigh ar draws y byd er mwyn mapio hanes newydd o'i heffaith greadigol a'i chrefft sgrîn a llwyfan. Mae elfennau eraill o ymchwil Lisa yn cynnwys hanesion am ffilmio ar leoliad mewn ardaloedd cefn gwlad a ffilm realiti archifol fel elfen allweddol o hanesion pobl fyddar yn ne-orllewin Lloegr, oedd yn rhan o Grant Cysylltu Cymunedoedd yr AHRC  yn 2015.

Meysydd Arbenigedd

  • ffeministiaeth a hanes ffilm
  • sinema menywod
  • Ysgrifennu a diwylliannau print gan fenywod o ffilm
  • Addasu
  • sinema a chyfryngoli
  • sinema rhwng y ddau ryfel byd
  • cynulleidfaoedd a derbyniad ffilm
  • modernistiaeth, moderniaeth a'r sinema

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil Lisa'n canolbwyntio'n bennaf ar archifau, llafur creadigol menywod a hanesyddiaeth ffilm ffeministaidd. Mae ei gwaith wedi archwilio'r berthynas rhwng awduron benywaidd, gwneuthurwyr ffilmiau a chynulleidfaodd rhwng y ddau ryfel byd a Phrydain ac America gyfoes, gan edrych ar drafodaethau cyfryngol rhwng diwylliannau ffilm menywod a diwylliant print, diwylliannau serendod ffilm menywod a thrafodaethau ar awduraeth ffilmiau menywod.

Prif Wobrau