ILS
Ashra Khanom

Dr Ashra Khanom

Uwch-gymrawd Ymchwil, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606649

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
203
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Ashra Khanom yn Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd. Mae hi hefyd yn ymchwilydd yng Nghanolfan PRIME Cymru, y ganolfan ymchwil sy’n ffocysu ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddatblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr http://www.primecentre.wales/.

Mae prif ddiddordebau ymchwil Ashra ym maes atal ac ymyrraeth gynnar sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a mynediad anghyfartal at ddefnydd gofal iechyd gan ddefnyddio data iechyd cysylltiedig, cyfranogiad ac ymgysylltiad cleifion a’r cyhoedd newydd, a chydweithio â’r GIG, sefydliadau trydydd sector a phartneriaid rhyngwladol ym Moroco a Tiwnisia. Mae ymchwil Ashra gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid (astudiaeth HEAR) yn rhan o becyn cymorth iechyd cleifion ffoaduriaid a cheiswyr lloches Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)2. Mae hi wedi ennill Gwobr Cyfranogiad ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Cynnar Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Abertawe.

Y tu allan i'r gwaith mae Ashra yn drysorydd ac yn ymddiriedolwr Cymdeithas BME Castell-nedd Port Talbot. Gweithia’n agos gyda MIND Castell-nedd Port Talbot ar brosiectau i wella llesiant pobl sy'n byw yn ei chymuned. Cyfrannodd at adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru 'Connecting the dots: tackling mental health inequalities in Wales' on 19 December 2022

Meysydd Arbenigedd

  • Ymchwil gwasanaethau iechyd
  • Gofal cyn-ysbyty
  • Cysylltu data
  • Ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
  • Gwneud penderfyniadau a chanfod risg
  • Blynyddoedd cynnar – gordewdra mewn plentyndod
  • Iechyd meddwl
  • Ceiswyr lloches (ceiswyr lloches a ff

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

PM - 263 Ymchwil Gwasanaethau Iechyd

Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddisgrifio a chyfleu cysyniadau, damcaniaethau a therminoleg allweddol sy'n sail i Ymchwil Gwasanaethau Iechyd. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i drafod datblygiadau mewn, a chymwysiadau o Ymchwil Gwasanaethau Iechyd.

Prosiect PM-344 Maen Capan

Bwriad y modiwl hwn yw darparu profiad maen capan i fyfyrwyr dysgu, trwy gymryd rhan yn eu prosiect ymchwil eu hunain yn seiliedig ar ymholiad. Gall y prosiect fod yn seiliedig ar labordy neu heb fod mewn labordy, ond bydd bob amser yn cynnwys cwestiwn ymchwil a dynnir o'r llenyddiaeth ac sy'n ffocysu ar bwnc sy'n berthnasol i'r gwyddorau bywyd. Bydd myfyrwyr yn mireinio eu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig i lefel raddedig.

Goruchwyliaeth PhD

  • Profiadau gofal mamolaeth ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a Lloegr (Gwobr DTP ESRC)
  • Rôl rhyngweithiadau claf-clinigwr a'u cyd-destun sefydliadol mewn cysgodi diagnostig mewn Clefydau Rhiwmatig Awtomiwn Systemig (SARDs) a gyfryngir gan y System Nerfol Ganolog (CNS) (hunan-ariannu)
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau