Dr Chelsea Starbuck

Dr Chelsea Starbuck

Darlithydd yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Sport and Exercise Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987140
Swyddfa Academaidd - A107
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Chelsea Starbuck â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn 2022. Cyn ymuno â'r Brifysgol, bu'n ddeiliad swydd Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Salford. Rôl Chelsea ym Mhrifysgol Salford oedd cydweithio â Sefydliad Iechyd a Pherfformiad Manceinion (MIHP), sy'n sefydliad meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff blaenllaw ar gyfer diagnosis, addysg ac ymchwil i iechyd a pherfformiad. Bu Chelsea yn hollbwysig i ddatblygu asesiadau a arweinir gan ymchwil a phecynnau dadansoddi ar gyfer poblogaethau gwahanol, gan gynnwys athletwyr elît a chleifion trawma yn yr MIHP.

Mae diddordebau ymchwil Chelsea yn cynnwys biofecaneg rhan isaf y corff wrth wneud symudiadau sy'n benodol i chwaraeon, rhyngweithio esgid-arwyneb a ffactorau bifmecanyddol sy'n gysylltiedig ag anafiadau i’r pigwrn a'r pen-glin a chanlyniad yr anafiadau hynny (e.e. osteoarthritis y pen-glin ac ansefydlogrwydd cronig y pen-glin).

 

Meysydd Arbenigedd

  • Biofecaneg aelodau is
  • Anafiadau aelodau is
  • Rhyngweithiadau esgid-arwyneb